Merched Cymru 1-0 Merched Seland Newydd
- Cyhoeddwyd

Rhiannon Roberts, Cymru, yn herio Hannah Wilkinson o Seland Newydd
Fe wnaeth gôl gyntaf Cymru ers mis Mehefin diwethaf sicrhau buddugoliaeth yn y munudau olaf yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd.
Ymdrech Kayleigh Green ar ôl 90 munud wnaeth ddod a'r cyfnod o aros am gôl - 742 munud - i ben.
Cyn hynny roedd angen arbediad Laura O'Sullivan o gic o'r smotyn gan Sarah Gregorius yn yr hanner cyntaf i gadw Cymru yn gyfartal yn y gêm gyfeillgar.
Bydd y tîm yn magu hyder o guro Seland Newydd, tîm fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc y mis hwn.
Daeth 2,000 o gefnogwyr i weld y fuddugoliaeth yn erbyn y tîm wnaeth lwyddo i guro Lloegr yn Brighton yr wythnos diwethaf.