Chwe thref wledig i elwa o gronfa £1.5m
- Cyhoeddwyd
Bydd chwe thref yn y canolbarth yn gallu dechrau elwa o gronfa gwerth £1.5m o 10 Mehefin ymlaen.
Nod y gronfa yw ceisio dod â bywyd newydd i ganol trefi gwledig, a galluogi hen adeiladau i gael eu defnyddio unwaith eto.
Y chwe thref sydd wedi eu dewis yw Aberhonddu, Llanbedr Pont Steffan, Llandrindod, Llandysul, Y Drenewydd a Thregaron.
Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, y bydd yr arian yn mynd tuag at Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo Canol Tref yng nghynghorau Powys a Cheredigion.
"Rydym yn awyddus i gefnogi busnesau lleol, tyfu canol ein trefi a chredu cyfleoedd gwaith yng Nghanolbarth Cymru," meddai Ms Blythyn.
"Bydd y gronfa yma'n helpu i greu cyfleoedd allan o eiddo gwag ac yn denu rhagor o bobl i ganol ein trefi."
Dywedodd y cynghorydd Rhodri Evans, aelod cabinet Ceredigion â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio, y bydd yr arian yn fodd o ychwanegu rhagor o fywiogrwydd i drefi "mewn hinsawdd economaidd anodd".
"Mae Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron yn drefi pwysig sy'n hanfodol i lawer o gymunedau yng Ngheredigion," meddai.
Bydd y gronfa'n becyn cymorth sy'n cynnwys benthyciadau, buddsoddi preifat a grantiau.
Bydd yn rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais am yr arian ddangos eu bod wedi ystyried opsiynau am yr holl grantiau a benthyciadau sydd eisoes yn bodoli cyn iddyn nhw wneud cais i'r gronfa yma.
Dywedodd y cynghorydd Martin Weale, aelod cabinet Powys ar faterion adfywiad: "Bydd newyddion heddiw yn darparu hwb mawr i'r trefi unigol ac yn cefnogi eu busnesau lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019