Dirgelwch ynglŷn â marwolaeth cerddwr ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Cafodd Graham Schultz ei ganfod yn farw islaw Bwlch y Saethau
Mae dirgelwch yn parhau ynglŷn â sut syrthiodd cerddwr o Gaerdydd i'w farwolaeth ar Yr Wyddfa noswyl Nadolig.
Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yng nghwest Graham Schultz, rheolwr technoleg gwybodaeth 41 oed.
Dywedodd Crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, fod y digwyddiad yn dangos "nad oes ffasiwn beth a mynydd diogel, ac mae hyn yn tanlinellu'r ffaith".
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod amgylchiadau ar y diwrnod yn berffaith ar gyfer cerdded y mynydd 3,560 troedfedd.
"Am ryw reswm fe syrthiodd, a hynny cryn bellter," meddai Mr Jones.
"A wnaeth o golli ei gydbwysedd neu lithro, neu a wnaeth rhan o'r graig dorri oddi tano, mae'n amhosib dweud."
'Llithrig'
Dywedodd Elfyn Jones, o Dîm Achub Mynydd Llanberis fod Mr Schultz wedi tynnu nifer o luniau ar ei ffordd i fyny'r mynydd o Pen-y-Pass.
Ychwanegodd Mr Jones fod data o'i oriawr yn dangos ei fod wedi gwyro o lwybr Watkin ac wedi mynd i'r "clogwyn dwyreiniol lle mae nifer o ddamweiniau wedi bod, gan gynnwys rhai angheuol".
"Mae'n ymddangos ei fod wedi dod ar draws craig fawr ac roedd yn ceisio mynd o'i amgylch pan syrthiodd," ychwanegodd.
"Pe na bai'r graig yn yr haul, fe allai wedi bod yn llithrig iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2019
- Cyhoeddwyd4 Mai 2019
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2019