Tîm achub mynydd i adeiladu safle newydd yn dilyn tân

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau achub mynydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae tri cherbyd newydd ar y ffordd yn dilyn tân ym mhencadlys y tîm achub mynydd yn 2017

Mae tîm achub mynydd a gollodd eu pencadlys yn dilyn tân yn chwilio am dir i adeiladu safle newydd pwrpasol ar gyfer y gwasanaeth.

Ers i dân ddifrodi safle Tîm Achub Mynydd y Bannau yn Nowlais ger Merthyr yn 2017, maen nhw wedi bod yn benthyg offer o orsaf dân Merthyr Tudful.

Mae cwmni yswiriant wedi cytuno i dalu'r swm a ddifrodwyd yn y tân, ac mae un cerbyd achub newydd wedi dechrau cael ei ddefnyddio.

Gobaith y tîm yw casglu £250,000 yn ychwanegol ar gyfer adeilad newydd.

Dywedodd rheolwr digwyddiadau'r tîm, Huw Jones, yn dilyn trafodaethau, bod yr elusen sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr wedi penderfynu "sicrhau dyfodol" y gwasanaeth drwy wella'r adnoddau yn hytrach na defnyddio'r arian yswiriant i'w cael "yn ôl fel yr oedden nhw".

'Diolch i'r cyhoedd'

Diolchodd Mr Jones i'r gwasanaeth tân ac achub am ddarparu safle ar gyfer y tîm i'w defnyddio tra'u bod yn chwilio am dir newydd.

"Does dim dyddiad pendant wedi ei bennu o ran gadael yr orsaf dân, ond dydyn ni ddim eisiau aros yn hirach na sydd ei angen," meddai.

Mae cerbyd 4x4 newydd yn cael ei ddefnyddio gan y tîm, gyda dau gerbyd arall pwrpasol ar fin cael eu cwblhau.

Mae'r tîm wedi bod yn llogi Land Rover Discovery ers y tân, wnaeth achosi gwerth £500,000 o ddifrod.

Ychwanegodd Mr Jones fod yr ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn "anhygoel," ac fe ddiolchodd iddyn nhw am y rhoddion mae'r tîm wedi'u derbyn.