Lle oeddwn i: Rebecca Harries a Sali Mali
- Cyhoeddwyd
Mae un o gymeriadau enwoca' Cymru, Sali Mali, yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ar 19 Mehefin.
Bu'r actores Rebecca Harries yn chwarae rhan y cymeriad hoffus o lyfrau plant, a grëwyd gan yr awdur Mary Vaughan Jones a'r artist Rowena Wyn Jones yn 1969, yn y cyfresi teledu Caffi Sali Mali a Pentre Bach, sy'n dal yn boblogaidd ar wasanaeth Cyw S4C heddiw.
Yma, mae'n hel atgofion o'r gwaith a chael ei 'mobio' gan blant bach Cymru yn Eisteddfodau'r Urdd...
Ar ddydd San Ffolant 1994 ges i'r cyfweliad i chwarae'r rhan. Oedd hi'n bwrw eira achos dwi'n cofio gyrru o Landybie i S4C yng Nghaerdydd, ac o'n i ddim cweit yn siŵr a o'n i'n mynd i gyrraedd mewn pryd. Ond o'n i'n hapus iawn i fod wedi 'neud y siwrne erbyn diwedd y dydd.
Ro'n i'n 28 oed ar y pryd a rhwng dau gartref. Ro'n i wedi bod yn byw yn Llundain a Birmingham am rai blynyddoedd. Ro'n i wedi dod i fyw adref am gyfnod ac wedyn wnes i benderfynu mai Caerdydd oedd y lle o'n i am fod.
O'n ni'n ffilmio Caffi Sali Mali am rhyw 10 i 12 wythnos y flwyddyn, yn y gwanwyn ac yn yr hydref lan yn stiwdios Barcud [yng Nghaernarfon]. Gweddill y flwyddyn o'n i'n llawrydd, yn 'neud beth bynnag arall oedd yn codi ei ben.
Deg mlynedd wedyn, yn 2004, daeth [y gyfres deledu] Pentre Bach. Penderfynodd y cwmni eu bod nhw ishe neud rhywbeth oedd yn fwy fel opera sebon, ar leoliad, gyda sefyllfaoedd mwy realistig ac o'n i'n cael trafod pethau fel marwolaeth a genedigaeth.
"Lwcus iawn"
Dwi'n credu mod i wedi bod yn lwcus iawn. Anaml iawn wyt ti'n cael cyfle i chwarae cymeriad o lyfr o't ti'n darllen pan o't ti'n ferch fach. Fi'n cofio, pan ges i'r job, o'n i'n falch iawn, achos o'n i'n cofio darllen y llyfr pan yn blentyn ac o'n i ddim wedi ystyried bod y llyfr wedi cael yr un effaith ar fy nghyfoedion i.
Fi'n cofio dweud wrth fy ffrindie mod i wedi cael y job o chware cymeriad Sali Mali, ac o'n nhw i gyd yn dechre dyfynnu'r llyfr.
Mae gweld yr effaith mae'r cymeriad bach syml iawn, tri lliw, wedi ei gael, a mod i wedi cael rhyw fath o ran yn ei pharhad hi - hwnna yw'r peth i fi, mae hwnna'n anhygoel.
Ti prin yn gallu taro ar unrhyw un sydd ddim yn gwybod pwy yw Sali Mali. Mae'n fraint a dwi 'di bod yn lwcus iawn.
Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn i fod wedi gwneud ymddangosiadau fel Sali Mali mewn digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd. Roedd Idris [Morris Jones] oedd yn chware Jac y Jwc a fi'n mynd gyda'n gilydd ac ar y dechrau do'n ni ddim yn siŵr beth oedd yr ymateb yn mynd i fod, ac yn sydyn, ti'n cerdded ar y Maes ac yn cael dy mobio a phlant yn rhedeg tuag ato ti!
Dwi'n cofio bod yn Venue Llandudno, cerdded ar y llwyfan a gweld y lle yn orlawn, roedd yn anhygoel.
Mae gen i atgofion melys iawn am bortreadu'r cymeriad.
Hefyd o ddiddordeb: