Dechrau achos dynladdiad Peter Colwell yn Llanbedrog

  • Cyhoeddwyd
Peter ColwellFfynhonnell y llun, Llun Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Peter Colwell ar ôl cael ei saethu mewn cerbyd yn Llanbedrog

Mae achos dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o ddynladdiad, ar ôl i wn danio mewn cerbyd yng Ngwynedd, wedi dechrau.

Bu farw Peter Colwell ar 5 Chwefror 2017 ar ôl iddo gael ei saethu mewn cerbyd y tu allan i dafarn Y Llong yn Llanbedrog, ger Pwllheli.

Yn ôl yr erlyniad, Ben Wilson, 29, oedd berchen y gwn a laddodd Mr Colwell, a Ben Fitzsimons, 23, wnaeth ei danio mewn damwain.

Mae'r dynion yn gwadu dynladdiad.

'Mor ddiofal ei fod yn drosedd'

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Mr Wilson a Mr Fitzsimons wedi treulio noson 5 Chwefror yn yfed gyda Mr Colwell a dau arall, gan deithio i wahanol dafarndai mewn Land Rover Discovery.

Yn ôl yr erlynydd Patrick Harrington roedd y gwn, oedd wedi ei lwytho, yn sedd flaen y cerbyd yn pwyntio tuag at y sedd gefn.

Pan ddychwelodd y grŵp i'r car, roedd Mr Fitzsimons yn eistedd yn y sedd flaen, gyda Mr Colwell yn eistedd yng nghanol y sedd gefn.

"O fewn 'chydig o amser, cafodd y gwn ei saethu", yn ôl Mr Harrington.

Lladdwyd Mr Colwell "yn syth" gan ergyd i'w ben.

Clywodd y rheithgor bod y ddau ddiffynnydd wedi ymdrin â'r gwn gydag esgeulustod troseddol difrifol.

Ni ddylai'r gwn fod yn y blaen yn y lle cyntaf, yn ôl Mr Harrington, ond dywedodd wrth y rheithgor nad oedd y dynladdiad yn fwriadol na'n faleisus.

"Roedd beth wnaethon nhw mor ddiofal, nes iddo ddod yn drosedd," meddai.

Mae'r dynion yn gwadu dynladdiad, ac mae disgwyl i'r achos barhau am dair wythnos.