Cynulliad yn pleidleisio o blaid cynnal refferendwm arall

  • Cyhoeddwyd
senedd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynnig ei basio gyda 36 pleidlais o blaid ac 16 yn erbyn

Mewn pleidlais yn y Cynulliad, mae mwyafrif yr aelodau wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm arall ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

Roedd cynnig symbolaidd gan Blaid Cymru'n galw am gynnal pleidlais arall ar amodau unrhyw gytundeb Brexit, gydag 'Aros yn yr UE' fel un dewis ar y papur pleidleisio.

Fe wnaeth ACau Llafur gefnogi'r cynnig wedi penderfyniad diweddar y Prif Weinidog Mark Drakeford i addasu polisi Llafur Cymru ar Brexit.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gyhuddo cefnogwyr refferendwm arall o gredu "eu bod nhw'n gwybod yn well na'r bobl".

Dadlau am ddemocratiaeth

Dywedodd Darren Millar, AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, fod y ffaith fod Plaid Brexit wedi ennill dwy sedd yn Etholiad Senedd Ewrop yn "neges glir i ni gyd yn y siambr hwn i fwrw 'mlaen gydag e".

Galwodd arweinydd Plaid Brexit yn y Cynulliad, Mark Reckless ar brif weinidog nesaf y DU i "adael yr UE ddim hwyrach" na 31 Hydref, sef y dyddiad presennol ar gyfer diwedd yr estyniad i'r broses.

"Rhaid sicrhau yn ein gwlad fod y bobl sy'n parchu democratiaeth yn ennill dros y rhai sydd am atal Brexit ac atal democratiaeth," meddai.

Ond dywedodd Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Rhyngwladol: "Fedrai ddim deall sut y gall unrhyw un honni fod rhoi pleidlais arall i bobl yn tanseilio democratiaeth.

"Gadewch i mi atgoffa aelodau yn y siambr - byddai ail bleidlais yn dal i gynnig dewis, a bydd pobl yn rhydd i ymgyrchu ar y ddwy ochr."

Yn dilyn y newid ym mholisi Llafur Cymru ar Brexit, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles: "Rydym yn ei gwneud yn glir y byddwn yn ymgyrchu'n ddidrugaredd i aros, ac ry'n ni angen i wleidyddion o bob plaid gydnabod mai'r unig ffordd ymlaen yw deddfu am refferendwm arall.

"Dylai Llywodraeth y DU fod yn cymryd y camau angenrheidiol nawr i baratoi am refferendwm arall... drafftio'r ddeddfwriaeth berthnasol, ymgynghori gyda'r Comisiwn Etholiadol a cheisio am gytundeb i estyniad pellach i broses Erthygl 50."

Cafodd y cynnig ei basio gyda 36 pleidlais o blaid ac 16 yn erbyn.

Ond mae'r cynnig yn un symbolaidd gan fod y grym i gyflwyno refferendwm yn gorwedd gydag aelodau seneddol a Llywodraeth y DU yn San Steffan.