Arestio dyn arall wedi marwolaeth Fahad Mohamed Nur
- Cyhoeddwyd

Bu farw Fahad Mohamed Nur ar ôl digwyddiad ger gorsaf drenau Cathays
Mae trydydd dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn ifanc yng Nghaerdydd.
Bu farw Fahad Mohamed Nur, 18, ar ôl cael ei drywanu yn ardal Cathays yn oriau man 2 Mehefin.
Dywedodd yr heddlu bod dyn 21 oed o Gaerdydd wedi ei arestio yn Llundain ddydd Gwener.
Mae wedi ei gludo yn ôl i Gaerdydd i gael ei holi.
Daw ar ôl i ddau ddyn arall o Gaerdydd, 24 a 22 oed, gael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar 5 Mehefin.
Yn ogystal mae dynes 34 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae'r pedwar wedi eu cadw yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2019