Llofruddiaeth Cathays: Arestio dau ddyn a dynes

  • Cyhoeddwyd
Fahad Mohamed NurFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Fahad Mohamed Nur bod "colled enfawr ar ei ôl"

Mae dau ddyn ac un ddynes wedi'u harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 18 oed yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Cafodd Fahad Mohamed Nur ei ddarganfod gan yr heddlu y tu ôl i orsaf drenau Cathays ychydig cyn 00:30 fore Sul.

Roedd Mr Nur wedi cael ei drywanu, a bu farw o'i anafiadau ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dywedodd Heddlu De Cymru ddydd Mercher bod dau ddyn - 22 a 24 oed o Gaerdydd - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae dynes 34 oed o Birmingham hefyd wedi ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn 22 oed a'r ddynes wedi cael eu harestio ym Maes Awyr Heathrow yn gynnar fore Mercher.

Mae'r llu yn dal i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.