Llofruddiaeth Caerdydd: Cyhuddo dau ddyn

  • Cyhoeddwyd
Fahad Mohamed NurFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Fahad Mohamed Nur yn dilyn digwyddiad y penwythnos diwethaf

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dau ddyn o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghaerdydd.

Mae Abdulghalil Aldobhani, 22, o Cathays, a Shafique Shaddad, 24, o Drebiwt, wedi eu cyhuddo o lofruddio Fahad Mohamed Nur, 18.

Mae Aseel Arar, gwraig 34 oed o Birmingham, wedi ei chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd y tri eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn.

Mae'r heddlu yn parhau i holi dyn 21 oed o Gaerdydd mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i apelio am dystion ac maen nhw wedi diolch i'r gymuned am y cymorth a roddwyd hyd yma yn ystod yr ymchwiliad.