Dynes wedi amddiffyn ei hwyres rhag gyr o wartheg
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Brenhinol Stoke gydag anafiadau "difrifol"
Roedd dynes gafodd ei hanafu gan yrr o wartheg dros y penwythnos yn amddiffyn ei hwyres, yn ôl tîm achub mynydd.
Cafodd tîm achub Dyffryn Ogwen a'r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i'r digwyddiad yng Nghapel Curig toc wedi 12:00 brynhawn Sul.
Roedd y ddwy yn cerdded ar hyd y llwybr rhwng Capel Curig a Chrimpiau pan redodd gyr o wartheg i'w cyfeiriad.
Cafodd y ddynes ei chludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau "difrifol".
Dywedodd y tîm achub mewn datganiad bod y ddynes a'i hwyres chwech oed wedi llwyddo i osgoi'r gwartheg unwaith gan fod dau feiciwr mynydd wedi llwyddo i'w hebrwng i ffwrdd.
"Yn fuan wedyn fe redodd y gwartheg atynt unwaith eto a chafodd y ddynes ei hanafu wrth geisio amddiffyn y plentyn," meddai'r datganiad.
"Ar ôl derbyn anafiadau difrifol, fe gafodd y ddynes gymorth gan gerddwyr eraill cyn i'r ambiwlans a'r ambiwlans awyr gyrraedd."
Aed a'r ferch i Ysbyty Glan Clwyd am driniaeth hefyd ond mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2019