Daniel James yn arwyddo i Manchester United o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Dan JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Dan James y gôl fuddugol dros Gymru yn erbyn Slofacia fis Mawrth

Mae Manchester United wedi cyhoeddi eu bod wedi cytuno mewn egwyddor i arwyddo'r Cymro Daniel James o Abertawe.

Mae'r asgellwr 21 oed wedi teithio gyda charfan Cymru i Croatia, ond fe wnaeth gwblhau prawf meddygol gyda chewri Old Trafford cyn gadael.

Ar wefan Twitter brynhawn Gwener, cyhoeddodd Manchester United y trosglwyddiad, ac y byddai manylion yn dilyn.

Y gred yw bydd Utd yn talu hyd at £18m am y Cymro.

Fe fydd y trosglwyddiad yn cael ei gwblhau pan fydd y ffenest drosglwyddo ryngwladol yn agor ar 11 Mehefin.

Roedd disgwyl iddo fethu'r gemau rhyngwladol nesaf yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad fis diwethaf.

Ond mae bellach yn rhan o'r garfan sy'n paratoi ar gyfer y gemau yn erbyn Croatia a Hwngari yn rowndiau rhagbrofol Euro 2020.

Bron â symud i Leeds

Ar ddiwrnod olaf y cyfnod trosglwyddo ym mis Ionawr, roedd disgwyl y byddai James yn ymuno ar fenthyg am ffi o £2m â Leeds United tan ddiwedd y tymor, cyn symud yno'n barhaol am ffi o £10m.

Ond daeth cadarnhad ar y funud olaf bod Abertawe yn anhapus gyda threfniadau'r taliadau.

Sgoriodd James yr unig gôl yng ngêm ragbrofol gyntaf Cymru i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Slofacia ym mis Mawrth.

Bydd tîm Ryan Giggs yn wynebu Croatia yn Osijek ar 8 Mehefin a Hwngari yn Budapest ar 11 Mehefin.