Ceir cyntaf o ffatri Aston Martin ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Aston Martin DBXFfynhonnell y llun, Max Earey
Disgrifiad o’r llun,

Aston Martin DBX

Mae cwmni Aston Martin wedi dechrau cynhyrchu ceir ar eu safle ym Mro Morgannwg.

Eisoes mae'r cwmni yn cyflogi 200 o weithwyr yn Sain Tathan, gyda'r bwriad o recriwtio 550 yn ychwanegol.

Dywedodd llefarydd eu bod yn gobeithio y bydd y safle yn cynhyrchu i'w lefel llawn erbyn 2020.

Mae r ffatri - sy'n cynhyrchu y model Aston Martin DBX - wedi ei leoli ar dir oedd yn eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe wnaeth y cwmni dderbyn £18.8m mewn cymorthdaliadau oddi wrth Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi eu bod yn symud i Gymru.