Sain Tathan i fod yn 'gartref trydaneiddio' Aston Martin
- Cyhoeddwyd

Delwedd o'r Lagonda, fydd yn cael ei adeiladu yn safle Aston Martin yn Sain Tathan
Mae Aston Martin yn bwriadu datblygu'r ganolfan yn Sain Tathan yn "gartref trydaneiddio" i'r cwmni - cam, medd penaethiaid, allai arwain at greu cannoedd o swyddi.
Cyhoeddodd y cwmni mai yn y ganolfan ym Mro Morgannwg y bydd car newydd y Lagonda yn cael ei adeiladu - cerbyd sy'n cael ei ddisgrifio fel y car moethus cyntaf yn y byd i beidio â chynhyrchu unrhyw allyriadau.
Mae'r cwmni wrthi'n datblygu hen safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, gyda'r bwriad o ddechrau cynhyrchu cerbydau yn 2019.
Mae disgwyl i tua 750 o swyddi gael eu creu ar y safle, ond mae'r cwmni'n rhagweld y bydd mwy o swyddi eto'n dod yno yn sgil y cyhoeddiad diweddaraf.
Y Rapide E - car cynta'r cwmni i gael ei bweru gan fatri - fydd y cyntaf i gael ei gynhyrchu yn Sain Tathan, ac mae cynlluniau hefyd i gynhyrchu'r car moethus, y DBX, yno o 2020 ymlaen.

Cerbyd y Rapide E fydd y cyntaf i gael ei gynhyrchu ar safle Aston Martin ym Mro Morgannwg, a hynny yn 2019
Croesawodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y datblygiadau diweddaraf, gan ddweud ei fod yn brawf o'r hyder sydd gan Aston Martin yng ngallu'r gweithlu yng Nghymru,
Ddiwedd mis Awst, cyhoeddodd Aston Martin gynlluniau i roi eu cyfrannau ar y farchnad stoc yn Llundain.
Mae 'na ddyfalu y gallai hynny ddigwydd fis nesaf, a dyfalu pellach y gallai'r cwmni fod werth £5bn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd30 Awst 2017