Gobaith creu 200 o swyddi ym Maes Awyr Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaernarfonFfynhonnell y llun, Google

Mae cyfarwyddwr y cwmni sy'n berchen Maes Awyr Caernarfon yn dweud ei fod yn gobeithio creu hyd at 200 o swyddi yno.

Y nod fyddai cynhyrchu tua 200 o awyrennau microlight mewn blwyddyn.

Fe gyhoeddodd Huw Jones Evans ei fod wedi prynu cwmni o Rydychen, P and M Aviation, a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni.

Roedd y cwmni hwnnw'n arfer gwerthu i gwsmeriaid mewn 34 o wledydd.

Dywedodd Mr Evans ei fod yn gobeithio dechrau'r gwaith cynhyrchu yng Nghaernarfon o fewn dau fis.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mr Evans bod yna isadeiledd ar gyfer peth o'r gwaith cynhyrchu ar y safle eisoes

"Rydan ni'n bwriadu dod â'r cynhyrchwyr mwyaf yn y byd i Gaernarfon, a dod i gytundeb yn fuan iawn," meddai.

"Mae gan y cwmni rydan ni'n ei brynu infrastructure ar draws y byd.

"Creu swyddi ydi'n bwriad ni. Mae ganddon ni'r hangars a'r infrastructure i 'neud i hynny ddigwydd."

Mae bob awyren yn costio hyd at £100,000, medd Mr Evans, ac "mae yna ddiddordeb ofnadwy ar draws y byd".

Ychwanegodd y gallai'r cynlluniau arwain at greu swyddi sgiliau uchel mewn peirianneg fecanyddol a pheirianneg awyrennau "dros y pum mlynedd nesaf".

Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Arfon Hywel Williams yn dweud y gallai'r cynlluniau arwain at swyddi da i bobol leol

Dywedodd AS Arfon Hywel Williams bod y cynlluniau'n "gam positif iawn" gyda'r posibilrwydd o swyddi da i bobl leol.

"Dwi'n eithriadol o falch bod y diwydiant yma'n symud i Gaernarfon," meddai.

"Mae'r cwmni wedi bod yn weithredol ers rhai degawdau ac yn flaenllaw yn y maes felly newyddion da i Gaernarfon lle fyddan nhw'n adeiladu, a wedyn, mwya' tebyg, yn eu trwsio a'u cynnal a'u cadw hefyd."

Ychwanegodd bod y cynlluniau'n "gyson" â datblygiadau eraill yn y maes awyr yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a hofrenyddion chwilio ac achub gogledd Cymru'n gweithredu o'r safle yn Ninas Dinlle ac mae yna ysgol hedfan yno hefyd.