Cymru am fynd yn bellach wrth daclo newid hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi derbyn targed o leihau allyriadau carbon o 95% erbyn 2050, ond mae'r llywodraeth yn gobeithio mynd yn bellach a chyrraedd 'net sero', yn ôl Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd osod y targed ym mis Mai, gan awgrymu na fyddai modd mynd yn uwch na 95% oherwydd pwysigrwydd y diwydiant amaeth mewn cymunedau gwledig.
Dywedodd undeb NFU Cymru eu bod yn cydnabod y cyfraniad y mae angen i ffermwyr ei wneud wrth daclo newid hinsawdd.
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targed o gyrraedd 'net sero' erbyn 2050.
Dywedodd Lesley Griffiths AC y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd i'r Cynulliad y flwyddyn nesaf er mwyn newid targedau 2050 fel mae'r angen yn codi.
"Rydw i eisiau mynd yn bellach drwy ddatgan ein bwriad i gyrraedd y targed o 'net sero' dim hwyrach na 2050," meddai.
Dadansoddiad Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru Steffan Messenger
Gostwng allyriadau o 95% erbyn 2050 fydd y targed swyddogol yng Nghymru - ond mae'r llywodraeth yn dweud bod ganddi uchelgais i fynd hyd yn oed ymhellach.
Disgrifio hynny fel "newyddion arbennig" wnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, fu'n ei chynghori.
Ond yn adroddiad ddiweddara'r pwyllgor maen nhw'n rhybuddio y byddai cael gwared ar allyriadau nwyon tŷ gwydr bron yn llwyr yn fwy o her i Gymru na gweddill y DU.
Hynny'n rhannol am fod llai o le gennym ni i blannu coedwigoedd enfawr allai sugno carbon deuocsid o'r aer na'r Alban er enghraifft.
Ond hefyd am fod ffermio defaid a gwartheg mor bwysig i rannau gwledig o'r wlad, ac mae lleihau'r nwyon y maen nhw'n eu cynhyrchu yn anodd.
'Mwy o gydweithio'
Mynnu ei fod yn barod i ymateb i'r her mae'r diwydiant amaeth, gydag undeb NFU Cymru'n rhagweld y gallai'r sector gyrraedd targed 'net sero' erbyn 2040.
Bydd newidiadau i'r system cymorthdaliadau ar gyfer ffermwyr ar ôl Brexit yn rhoi mwy o bwyslais ar eu talu nhw i helpu atal newid hinsawdd hefyd.
Yr her arall ydy bod allyriadau Cymru o losgi tanwyddau ffosil yn edrych yn wael, ond bod lot o'r trydan sy'n deillio o hynny yn cael ei allforio i borthi gweddill y DU.
Mae Cymru'n gyfrifol am 6% o anghenion trydan y DU, ond yn gartref i 19% o'i phwerdai nwy, er enghraifft.
Mae'r grym i newid hynny yn nwylo Llywodraeth y DU, a dyna pam bod y Gweinidog Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, wedi galw am "fwy o gydweithio" os ydy'r DU a Chymru am gyrraedd eu targedau maes o law.
Mae Ms Griffiths hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau fod costau o gyrraedd targed 'net sero' yn cael eu rhannu a bod mwy o gydweithio rhwng awdurdodau.
"Rydw i wedi gofyn am gyfarfod gyda swyddogion o lywodraethau'r DU a'r Alban er mwyn trafod sut y gallwn ni gyrraedd y targedau gyda'n gilydd," meddai.
Dywedodd John Davies, llywydd NFU Cymru eu bod eisoes wedi amlygu'r meysydd sydd angen eu gwella os am gyrraedd y targedau.
Ychwanegodd bod amaethyddiaeth yng Nghymru yn cyfrannu tuag at 12% o allyriadau'r wlad "a'u bod yn cydnabod y rôl sydd ganddyn nhw wrth daclo newid hinsawdd".
"Mae'n sefydliadau ni yn gytûn, mae gweithredu er mwyn taclo newid hinsawdd yn hanfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019