216 o fanciau wedi cau yng Nghymru mewn pedair blynedd
- Cyhoeddwyd
Mae 216 o fanciau wedi cau yng Nghymru yn y pedair blynedd ddiwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Gan gyflwyno'r canfyddiadau i Aelodau Cynulliad ddydd Iau, dywedodd arbenigwr fod y sefyllfa o "gryn gonsyrn" i "gymdeithas gyfan".
Dywedodd Thomas Docherty - o'r grŵp cwsmeriaid Which? - fod y cyhoedd yn wynebu cyfuniad o broblemau rhwng diffyg cyflymder rhyngrwyd a changhennau'n cau.
Roedd Mr Docherty yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor economi'r Cynulliad, sy'n cynnal ymchwiliad i fynediad pobl at fanciau.
Bydd y pwyllgor nawr yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.
"Mae'r sefyllfa bresennol o ran gwasanaethau bancio o gryn gonsyrn, nid yn unig i'n haelodau a'n cefnogwyr ond i gymdeithas gyfan," meddai Mr Docherty.
"Mae defnyddwyr yng Nghymru yn gwario tua £4.5bn y mis, a heb y gwario yna byddai economi Cymru'n dod i stop."
Wrth i nifer y canghennau wnaeth gau'r llynedd - 50 - ostwng o 64 y flwyddyn flaenorol, mae strydoedd fawr Cymru wedi colli 54 banc ar gyfartaledd bob blwyddyn dros y pedair blynedd diwethaf, yn ôl Which?.
Dywedodd Mr Docherty hefyd ei fod yn pryderu am i 200 o beiriannau arian - sydd am ddim i'w defnyddio - gau ar draws Cymru.
Ychwanegodd mai pobl sy'n byw mewn ardaloedd cefn gwlad - yn benodol yn ardal Aberhonddu a Sir Faesyfed ym Mhowys - fyddai'n dioddef fwyaf.
Dangosodd gwaith ymchwil Which? mai NatWest sydd wedi cau'r nifer fwyaf o ganghennau (70) yng Nghymru rhwng 2015-2018.
HSBC oedd yn ail gyda 46 yn cau, ac yna Barclays (41) a Lloyds (27).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019