Sector gofal cymdeithasol Cymru 'bron yn argyfwng'

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae hi bron yn argyfwng ar y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru oherwydd y pwysau sy'n wynebu gweithwyr, yn ôl sefydliad sy'n eu cynrychioli.

Dywedodd cangen Cymru o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) fod gweithwyr cymdeithasol yn aml yn gweithio gormod o oriau ac yn mynd i'r gwaith yn sâl.

Mae ymchwil o 2018 gan Brifysgol Bath Spa yn awgrymu bod 60% o weithwyr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig yn ystyried gadael eu swyddi dros y 15 mis nesaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi darparu £30m ychwanegol eleni i fynd i'r afael â phwysau ar y gweithlu".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Phillips yn rhybuddio bod argyfwng ar y ffordd i'r sector gofal cymdeithasol

Yn ôl Carys Phillips, gweithiwr cymdeithasol sydd ar bwyllgor BASW Cymru, mae "gormod o waith a gormod o straen ar y gweithlu".

"Dwi'n gweld newly-qualified social workers yn dweud eu bod nhw'n anhapus ac yn gadael y proffesiwn," meddai wrth Newyddion 9.

"Dwi'n credu bod crisis yn looming."

'Gwneud mwy gyda llai'

Mae BBC Cymru wedi clywed gan weithiwr o'r fath sy'n byw yn ne Cymru, ac eisiau aros yn anhysbys.

"Mae 'na ddisgwyl i ni wneud mwy gyda llai a llai," meddai.

"Mae 'na lai o weithwyr cymdeithasol, a hefyd lot llai o adnoddau.

"Fi wedi cael y profiad lle mae lot o salwch gyda phobl yn y gwaith, ac wedyn mae rhywun yn mynd off a ni'n gorfod cyfro.

"Wedyn mae rhywun arall yn mynd yn sâl oherwydd eu bod nhw'n gorfod cyfro am y bobl sydd off.

"Fi'n credu os chi'n stressed chi'n fwy susceptible i broblemau iechyd eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gweithiwr cymdeithasol ei bod yn adnabod o leiaf 10 person sydd wedi ymddiswyddo oherwydd straen

Ychwanegodd bod burn-out, neu losgi'ch hunan allan - cyflwr wedi'i gysylltu â straen yn y gwaith - yn digwydd yn aml.

"Fi'n trio meddwl faint o weithwyr cymdeithasol sydd wedi mynd trwy ein tîm ni, ond mae 'na o leiaf 10 mewn 10 mlynedd wedi gadael [o achos straen]," meddai.

"Mae'n anodd iawn oherwydd mae'n rhaid i ni wneud mwy o waith i gyfro am fod rhaid gwneud y gwaith.

"Ni ddim yn gallu peidio cefnogi'r bobl sydd mewn angen."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud ac wedi darparu £30m ychwanegol eleni i fynd i'r afael â phwysau ar y gweithlu a chefnogi cynaliadwyedd ehangach gwasanaethau. "