Sefydlu corff i gynrychioli llais cleifion Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd corff cenedlaethol newydd i gynrychioli llais cleifion yn y gwasanaeth iechyd ac yng ngofal cymdeithasol yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bydd y corff sy'n cael ei argymell gan y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn "llawer mwy na chorff cwynion" a bydd yn chwarae rôl bwysig yn yr ymdrech i wella gwasanaethau.
Bydd y mesur newydd yn cael ei gyflwyno'n swyddogol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddydd Llun.
O dan y drefn newydd byddai'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol yn cael eu diddymu wrth i'r corff newydd ddarparu cyngor a chymorth i unigolion sydd am wneud cwyn am eu profiad o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnig cyflwyno dyletswydd newydd ar gyrff iechyd i fod yn fwy agored a gonest ynglŷn â heriau a phroblemau, yn ogystal â blaenoriaethu "ansawdd" gwasanaethau a budd cleifion ym mhob agwedd o'u gwaith.
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned wedi bodoli ers 45 mlynedd - ond mae 'na gwestiynau wedi codi ynglŷn â'u heffeithiolrwydd.
Wrth ymateb i greu'r corff newydd dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned fod yna amheuaeth a fyddai'r corff yn cryfhau llais y claf.
Beth yw cynigion penodol y ddeddfwriaeth newydd?
Sefydlu corffi ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned presennol.
Byddai hwn yn gorff cenedlaethol ond hefyd yn gweithio ar lefelau rhanbarthol a lleol.
Fe fyddai'n ystyried cwynion a phryderon cleifion ond hefyd yn cynnig cyngor parhaol i fyrddau iechyd ynglŷn â gwella gwasanaethau.
Gwneud hi'n gyfrifoldeb cyfreithiol i fyrddau iechyd hyrwyddo "diwylliant o fod yn agored, tryloyw a gonest".
Bydd yn rhaid i fyrddau iechyd adrodd yn flynyddol ynglŷn â phroblemau a heriau maen nhw wedi'u hwynebu a nodi pa mor aml y cafodd y ddyletswydd newydd ei gweithredu a pham, ac esbonio'r camau gafodd eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
Y nod yw sicrhau fod byrddau iechyd mor dryloyw â phosib ynglŷn â sefyllfaoedd lle aeth rhywbeth o'i le.
Y gobaith yw newid diwylliant a chreu awyrgylch sy'n arwain at sefyllfa lle mae staff a chleifion yn gyfforddus i godi pryderon.
Cyflwyno dyletswydd Ansawdd/Safon Cyfreithiol
Fe fyddai hyn yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd a gweinidogion i sicrhau fod gwella ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau i gleifion wrth galon eu holl benderfyniadau.
Byddai'n golygu fod gwella ansawdd a safon gwasanaethau yn flaenoriaeth mewn unrhyw drafodaethau am ad-drefnu gwasanaethau ac nid ystyriaethau fel cyllid a staffio yn unig.
Mae'r mesur yn adlewyrchu amcanion cynllun 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru wrth geisio sicrhau mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a gwneud yr angen i wrando ar leisiau pobl Cymru yn rhan ganolog o'r gwaith o gynllunio, darparu, a gwella gwasanaethau.
Os caiff ei weithredu, bydd yn rhoi'r cyfle i weinidogion benodi is-gadeirydd i fyrddau Ymddiriedolaeth y GIG os ydynt o'r farn y bydd hynny'n sicrhau cysondeb ar draws Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol, ac yn cryfhau'r arweinyddiaeth a'r trefniadau llywodraethu.
'Gwanhau llais y claf?'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: "Yma yng Nghymru, rydyn ni'n ffodus o gael mwynhau rhai o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau, a'r rheiny'n cael eu darparu gan staff ymroddgar a charedig ar bob lefel.
"Ond rhaid i ni sicrhau bod yr angen i sicrhau ansawdd, ac i fod yn agored ac i ddysgu yn rhannau annatod o ddiwylliant sy'n gwrando ar leisiau ein pobl wrth fynd ati i wella gwasanaethau.
"Bydd y [mesur] nawr yn dechrau mynd drwy broses graffu yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac os bydd yn cael ei basio, fe ddaw'n gyfraith yn haf 2020."
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn amau a fydd y corff newydd yn cynrychioli'r cyhoedd ac mae yna sylw wedi bod hefyd i'r diffyg manylion.
Ar hyn o bryd mae'r Cynghorau Iechyd Cymuned yn ymweld â wardiau ysbyty ac yn gallu cyfeirio penderfyniadau mawr ar newidiadau yn y gwasanaeth at y gweinidog os oes yna anghytuno amdanynt.
Ond fydd y corff newydd ddim yn cyflawni yr un o'r dyletswyddau hynny.
Dywedodd CIC Cwm Taf - a gwynodd yn ddiweddar ei bod wedi bod yn anodd cael sylw i'w pryderon am y gwasanaethau mamolaeth - bod y cynlluniau newydd â'r gallu i wanhau llais y claf unigol yn hytrach na'i gryfhau.
Yn y gorffennol mae Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru - sy'n cynrychioli byrddau iechyd - wedi dweud nad yw model CIC bellach yn addas a bod angen i gleifion sy'n derbyn gofal cymdeithasol gael mwy o gyfle i leisio barn.
Dywedodd hefyd bod angen i staff iechyd a gofal gael awdurdod annibynnol i droi ato os ydynt yn teimlo nad oes neb yn gwrando nac yn gweithredu ar eu pryderon.
'Neges anghywir'
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns yn dweud bod ganddi "bryderon difrifol" ynghylch cynlluniau Mr Gething.
"Rydym yn gwybod bod yna wahaniaethau mawr mewn safon gofal ar draws Cymru, ac mae tynnu pobl o lawr gwlad yng nghorneli mwyaf bregus Cymru'n danfon y neges anghywir i ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd.
"Cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar y bydden ni'n brwydro i warchod annibyniaeth Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru, ac fe wnawn ni barhau i wneud hynny trwy leisio barn yn erbyn y cynnig yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2015