Dyn yn cyfaddef gyrru 130 m.y.a gyda phlentyn yn y car

  • Cyhoeddwyd
llys y goron

Mae gyrrwr wedi cyfadde' gyrru'n beryglus ar yr A55 wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod wedi gyrru dros 130 m.y.a. wrth iddo ffoi o'r heddlu.

Roedd Lucas Needham, 26, o Gei Connah yn cario bachgen saith oed yn y sedd flaen ar y pryd.

Clywodd y llys fod Needham wedi achosi difrod i gar arall wrth iddo yrru dros 100mph ar hyd yr A55.

Fe blediodd yn euog hefyd i gyhuddiad arall yn ymwneud â digwyddiad gwahanol lle na wnaeth stopio yn Ewlo ar ôl damwain ym mis Ionawr.

Dywedodd yr erlyniad bod uned heddlu arfog wedi dilyn Needham ar gyflymdra o 130 m.y.a. ond bod y diffynnydd wedi methu â stopio.

Yn gynharach, clywodd Llys Ynadon Llandudno ei fod ar un adeg wedi bod yn gyrru ar gyflymdra heb oleuadau ac yn y tywyllwch.

"Dyma ddyn sy'n cyflawni troseddau moduro difrifol yn rheolaidd," meddai'r erlynydd James Neary.

Fe wnaeth y Barnwr Niclas Parry yn Llys y Goron y Wyddgrug ei gadw yn y ddalfa nes iddo gael ei ddedfrydu ddydd Gwener.