Agor canolfan i Bwyliaid sy'n cael trafferth ymgartrefu

  • Cyhoeddwyd
Anna Brons
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna Brons bod tua 30 o deuluoedd o Wlad Pwyl yn "cael trafferth gydag addysg" yn Wrecsam

Mae canolfan wedi agor yn ardal Wrecsam i gynnig cefnogaeth i Bwyliaid sy'n ei chael yn anodd ymsefydlu yno.

Ymhlith amcanion y Ganolfan Bwylaidd i Gefnogi Cymathu (PISC) mae helpu pobl â gwaith papur a rhoi gwybodaeth gywir i'r gymuned am bynciau fel Brexit.

Mae'r grŵp hefyd yn gweithio â'r Fenter Iaith leol i hyrwyddo addysg Gymraeg yn y gymuned.

Dywedodd un o'r cyfarwyddwyr, Anna Brons, eu bod eisiau "rhoi cyngor a chefnogaeth am ddim, gan fod gennym ni gysylltiadau".

Yn ôl amcangyfrifon y ganolfan, mae tua 13,000 o Bwyliaid yn byw yn ardal Wrecsam, gyda nifer angen help gydag addysg, tai a sgiliau iaith.

Yn yr hydref, bydd PISC yn cychwyn gwersi iaith - i ddysgu Pwyleg i blant, a Saesneg i rieni - a'r nod yw troi'r ganolfan yn "bont" rhwng Pwyliaid lleol a gwahanol wasanaethau.

"Mae gennym ni, dwi'n meddwl, 30 o deuluoedd sy'n cael trafferth gydag addysg," meddai Ms Brons.

"Mae gen i tua 20 o Bwyliaid yn Wrecsam sy'n ddigartref. Mae llawer o deuluoedd yn cael trafferth gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.

"Felly rydyn ni eisiau rhoi cyngor a chefnogaeth am ddim, gan fod gennym ni gysylltiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Caffi Pwyleg Tŷ Pawb yn Wrecsam

Mae pryderon am Brexit hefyd yn bwnc amlwg fydd yn rhaid i PISC ddelio ag o.

Yn ôl Arkadiusz Zurek, sy'n byw yn y dref ers 16 mlynedd, bydd y ganolfan yn bwysig wrth i'r gymuned geisio ymdopi â newidiadau posib wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae'n sefyllfa ddifrifol," meddai Mr Zurek, gafodd gyngor gan un o sylfaenwyr PISC pan oedd o'n chwilio am waith.

"O'r blaen, doedd dim rhaid gwneud dim - roeddech chi'n gallu symud yma a dyna ni. Ond nawr mae angen cael y statws 'ma, mae 'na bapurau i'w llenwi, ac mae 'na broblemau gyda phasbortau."

Annog addysg Gymraeg

Cafodd PISC grant o £10,000 gan y loteri i ddechrau'r fenter ac mae eu swyddfa yn adeilad Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ynghanol y dref.

Un o'r mudiadau sydd wedi cydweithio gyda PISC yn barod - ar ddigwyddiad Ddiwrnod Treftadaeth Bwylaidd ar 12 Mai - ydy Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

Iddyn nhw, mae'n gyfle i wella'r wybodaeth mae Pwyliaid lleol yn ei gael am y defnydd o'r Gymraeg a'u hannog i ddewis addysg Gymraeg i'w plant.

"Yn sicr, o'r ymateb, doedd pobl [yn y gymuned Bwylaidd] ddim yn llwyr ymwybodol bod darpariaeth addysg Gymraeg ar gael iddyn nhw, a drwy'r digwyddiad [ar Mai 12] fe godon ni eu hymwybyddiaeth nhw, a dangos bod 'na gyfleoedd iddyn nhw hefyd," meddai Anna Jones o'r fenter.

"Mae Wrecsam yn falch o fod yn dref amlddiwylliannol, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig pwysleisio i'r Pwyliaid eu bod nhw'n rhan o'r gymuned yn ehangach a bod y diwylliant Cymreig yn bwysig iddyn nhw hefyd."