Ymchwilio i farwolaeth menyw ym Mhenparcau ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
penparcau

Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod yn ymchwilio i farwolaeth menyw 48 oed yn Rhyd-y-bont, Penparcau ger Aberystwyth.

Cafodd plismyn eu galw yno gan y gwasanaeth ambiwlans toc cyn 21:00 nos Iau.

Mae archwiliad post mortem wedi'i gynnal ond dyw achos y farwolaeth ddim yn hysbys.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys bod perthnasau agosaf wedi cael gwybod am y newyddion diweddaraf a'u bod yn cydymdeimlo â'r teulu.

Cafodd dyn 40 oed ei arestio yn y tŷ nos Iau ac mae wedi cael ei gyhuddo o dorri gorchymyn llys.

Ddydd Sadwrn cafodd y dyn ei ddedfrydu i 16 wythnos o garchar.

Mae ymchwiliad i achos y farwolaeth yn parhau.