Cyhoeddi trefn gemau Uwch Gynghrair Cymru tymor 2019/20
- Cyhoeddwyd
Mae trefn gemau Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer y tymor nesaf wedi cael ei chyhoeddi.
Bydd Airbus - sy'n dychwelyd i'r gynghrair - gartref yn erbyn Y Bala, a bydd Pen-y-bont - sy'n ymuno â'r gynghrair am y tro cyntaf - gartref yn erbyn Y Barri ar nos Wener, 16 Awst.
Mae'r gemau eraill ar y nos Wener agoriadol yn cynnwys Aberystwyth gartref yn erbyn Caerfyrddin, a bydd Y Drenewydd yn chwarae gartref yn erbyn Derwyddon Cefn.
Bydd pencampwyr presennol Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, yn croesawu Caernarfon i Neuadd y Parc.
Yng ngêm olaf y penwythnos agoriadol, fe fydd Met Caerdydd yn wynebu taith i Lannau Dyfrdwy i chwarae Cei Connah ar 17 Awst.
Bydd y gemau lleol traddodiadol dros wyliau'r Nadolig yn parhau, gyda'r gynghrair yn hollti'n ddwy ar 17 Ionawr.
Bydd gemau ar nosweithiau Gwener yn dechrau am 20:00 yn lle 19:45 y tymor nesaf, yn dilyn cytundeb rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac S4C.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2019