Honiadau o gam-drin hanesyddol yn erbyn cyn-athro
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi datgelu eu bod wedi cael eu cam-drin gan athro celf tra'u bod yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont yn yr 1980au.
Cafodd Clive Hally, 67 oed o Faesteg, ei arestio yn gynharach eleni ar amheuaeth o ymosod yn anweddus, a hynny'n dilyn honiadau o gam-drin hanesyddol yn yr ysgol.
Roedd y cyn-athro ar fechnïaeth pan gafwyd hyd iddo'n farw ar 18 Mai.
Credir iddo ladd ei hun cyn i Wasanaeth Erlyn y Goron ddod i benderfyniad a ddylid ei gyhuddo neu beidio.
Cafwyd hyd i'w gorff yng nghronfa ddŵr Cwmwernderi ger Maesteg. Dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus.
Bydd y cwest i'w farwolaeth yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd.
Roedd Mr Hally yn athro yn Ysgol Gyfun Brynteg am 36 o flynyddoedd, rhwng 1975 a 2011.
Mae dau ddyn, un yn 48 a'r llall yn 50, yn dweud i'r cyn-athro eu cam-drin yn yr ysgol yn ystod yr 1980au, un pan oedd yn 13 oed a'r llall pan oedd yn 15 oed.
Fe allai cynnwys yr honiadau sy'n dilyn beri pryder i rai darllenwyr.
Cafodd Mike (nid ei enw iawn) ei gam-drin mewn 'stafell ffotograffiaeth, storfa gelf, hen doiledau ac mewn mannau eraill ym Mrynteg, ar ôl i'r ysgol orffen ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
Dywedodd fod hyn wedi digwydd iddo o pan oedd ym Mlwyddyn 10 nes iddo adael ar ôl astudio ei Lefel A.
Yn ei ôl ef roedd Mr Hally yn gwneud iddo berfformio gweithredoedd rhywiol, a hefyd i weithredodd rhywiol gael eu perfformio arno ef.
"Byddai'n cymryd fy llaw a'n nhywys i storfa, rhywbeth fel 17:00 neu 17:30 o'r gloch, a byddwn yn dadwisgo," meddai.
"Mae'n od - dydw i ddim yn cofio Clive yn dweud unrhyw beth.
"Dwi'n credu y byddai ef yn fy nadwisgo. Dwi dim yn cofio 'mod i eisiau dadwisgo. Dwi'n credu iddo ef wneud e i mi."
'Pethau ofnadwy'
"Byddai lot o bethau ofnadwy yn digwydd. Doeddwn i ddim eisiau ei gyffwrdd ef," meddai.
"Yn y storfa byddwn yn trio canolbwyntio fy sylw ar rywbeth fel handlen y drws neu jwg o bensiliau neu rywbeth.
"Mae'n beth gwallgo', ond doeddwn i ddim am ei siomi.
"Ond hefyd do'n i ddim yn gwybod sut i gael allan o'r lle. Do'n i ddim am wneud dim o'r pethau hyn.
"Dwi'n cofio bod yn noeth ac yn gorwedd ar gownter pren, math o ddesg. Roeddwn i jest eisiau i'r peth orffen mor sydyn â phosib."
Dywedodd David, (nid ei enw iawn) sydd nawr yn 50 oed, fod Mr Hally wedi ei gyffwrdd mewn modd rhywiol mewn digwyddiad yn y storfa gelf pan oedd yn 13 oed yn Ysgol Gyfun Brynteg.
Ychwanegodd ei fod wedi derbyn sylw amhriodol gan Mr Hally, gan gynnwys cusanu a chofleidio, a bod athro llanw wedi eu gweld ar un achlysur.
"Mae'n rhaid bod pobl yn gwybod fod pethau'n digwydd a dwi'n gwybod nad fi yw'r unig berson," meddai.
"Roedd e yn yr ysgol o'r 70au tan 2011 felly mae yna gyfnod hir iddo fod wedi cael y cyfle i wneud pethau.
"Mae mwy o blant allan yna sydd wedi cael eu cam-drin - mae hynny'n bendant.
"Dyw pedoffiliaid ddim yn rhoi'r gorau i gam-drin plant, felly am flynyddoedd roedd yna bedoffeil yn yr ysgol a dylai pobl wybod am hynny."
Dywedodd y ddau ddyn eu bod wedi clywed fod criw o athrawon wedi mynegi pryderon yn ystod gyrfa Mr Hally.
Roedd y pryderon yn ymwneud ag ef yn treulio amser gyda bechgyn yn yr ystafell gelf, ond dyw hi ddim yn eglur a gafodd unrhyw gamau eu cymryd.
Mae'r ysgol wedi gwrthod ymateb i gwestiwn penodol gan y BBC ynglŷn â'r honiadau, a hefyd wedi gwrthod dweud a wnaethon nhw dderbyn cwynion am yr athro yn ystod ei yrfa.
Cymorth swyddogion arbenigol
Mewn datganiad dywedodd yr ysgol: "Rydym yn gwerthfawrogi ac yn hybu diogelwch ein disgyblion ac yn cymryd yr honiadau hanesyddol hyn o ddifrif.
"Byddwn yn cydweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn ymchwilio i'r honiadau yn annibynnol."
Dywedodd y cyngor eu bod yn "cefnogi ysgolion wrth sicrhau fod canllawiau diogelwch effeithiol mewn bodolaeth - canllawiau sydd i'w dilyn pan fod honiadau o'r fath yn cael eu gwneud.
"Tra nad oes gan y cyngor unrhyw gofnod o honiadau hanesyddol, byddwn yn ymchwilio iddynt yn annibynnol gan gydweithredu gyda phartneriaid perthnasol," meddai llefarydd.
Dywedodd yr heddlu fod y ddau ddioddefwr wedi cael cynnig cymorth swyddogion arbenigol yr heddlu ac asiantaethau eraill.
"Mae Heddlu De Cymru'n cymryd pob honiad o ymosodiad rhywiol yn o ddifrif ac yn annog unrhyw ddioddefwr i gysylltu, dim ots pryd ddigwyddodd hyn," meddai llefarydd.
"Byddan nhw'n cael eu trin gyda pharch a bydd eu honiadau yn cael eu hymchwilio yn drwyadl."
Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, y byddai'n cysylltu gyda'r ysgol a'r cyngor sir.
"Os yw pobl yn cynnig gwybodaeth yna fe allant gael y cymorth maen nhw angen. Fe ddylai pobl siarad gyda'r heddlu hyd yn oed os ydy'r person dan sylw wedi marw," meddai.
"Mae'r dyddiadau dan sylw yn mynd tu hwnt i'r cyfnod pan ddaeth canllawiau diogelu newydd i rym, a hynny ar ôl i Gomisiynydd Plant cyntaf Cymru gynnal ymchwiliad Clywch, dolen allanol, i honiadau o athro yn cam-drin nifer o blant yn ei ysgol.
"Daeth trefniadau newydd i rym ar ôl hynny, ond dyw'r canllawiau ond cystal â'r bobl sydd yn ei gweithredu.
"Byddwn yn disgwyl i'r awdurdodau ym mhob achos tebyg i hwn i ymchwilio i beth ddigwyddodd."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gam-drin plant, cam-drin rhywiol neu drais, yna mae cymorth a chefnogaeth ar gael drwy gysylltu â BBC Action Line.