Penderfynu dymchwel cyn-gartref plant Bryn Estyn yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Bryn Estyn yn 1992Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cartref Bryn Estyn ei gau yn 1984

Mae cynlluniau i ddymchwel cyn-gartref plant yn Wrecsam wedi cael eu cymeradwyo'n unfrydol gan y cyngor.

Daeth cartref Bryn Estyn yn adnabyddus wedi i adroddiad ddatgelu bod nifer o blant wedi cael eu cam-drin yno yn y 70au a'r 80au.

Mae Cyngor Wrecsam nawr wedi penderfynu dymchwel yr adeilad, gyda bwriad i ddefnyddio'r tir ar gyfer adeiladu tai newydd.

Roedd rhai o gyn-drigolion y cartref wedi galw ar yr awdurdod lleol i gadw'r adeilad.

Rhai eisiau ei gadw

Wrth siarad mewn cyfarfod o fwrdd gweithredol y cyngor ddydd Mawrth, dywedodd y cynghorydd Phil Wynn fod yr adeilad yn costio £36,000 y flwyddyn i'r awdurdod.

Dywedodd fod oedi wedi bod cyn dymchwel y cyn-gartref am eu bod eisiau sicrhau yn gyntaf nad oedd gan gorff treftadaeth Cadw ddiddordeb mewn rhestru'r adeilad.

Ychwanegodd Mr Wynn, deilydd y portffolio addysg, fod y cyngor wedi edrych ar droi'r adeilad yn ysgol newydd ond na fyddai hynny'n bosib.

Yn hytrach, bydd y tir yn cael ei glustnodi ar gyfer 1,600 o dai newydd fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol yr awdurdod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Gregory yn un o gyn-breswylwyr Bryn Estyn

Fe wnaeth adroddiad Jillings, gafodd ei gyhoeddi yn 2013 ar ôl cael ei gadw'n gyfrinachol am bron i ddau ddegawd, ddod i'r casgliad bod nifer o blant wedi dioddef camdriniaeth hanesyddol ym Mryn Estyn.

Cafodd y cartref ei gau yn 1984, ac yn ddiweddarach cafodd yr adeilad ei ddefnyddio gan weithwyr Cyngor Wrecsam.

Ond dywedodd un o gyn-breswylwyr y cartref, Keith Gregory, sydd wedi siarad yn y gorffennol am y gamdriniaeth a ddioddefodd, ei fod eisiau i'r adeilad gael ei gadw.

"Fe ddigwyddodd pethau drwg i ni yn y cartref yna, ond i lawer roedd dal yn gartref i ni," meddai'r cyn-gynghorydd.

"Nid yr adeilad wnaeth ein brifo, ond y bobl oedd yn gweithio yno. Mae Wrecsam wedi colli llawer o adeiladau a threftadaeth, ac mae'n adeilad hyfryd."

Dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard ei fod yn disgwyl y bydd yr adeilad yn cael ei ddymchwel erbyn Medi 2020.