Llofruddiaeth bwa croes: Apêl am Land Rover wedi'i losgi

  • Cyhoeddwyd
Land Rover DiscoveryFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Land Rover Discovery gwyn wedi'i losgi yn Llanllechid ar 3 Mehefin

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Gerald Corrigan yn apelio am wybodaeth am symudiadau Land Rover cyn iddo gael ei losgi.

Bu farw Mr Corrigan, 74, yn ysbyty Stoke fis Mai wedi iddo gael ei saethu gan fwa croes wrth drwsio lloeren ar wal ei dŷ ar 19 Ebrill.

Mae tri dyn yn parhau yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth, ac mae dynes hefyd yn y ddalfa mewn cysylltiad â throseddau ariannol a thwyll honedig.

Ar ddydd Llun, 3 Mehefin, cafwyd hyd i Land Rover Discovery gwyn - gyda'r rhif cofrestru CX68 YTE - wedi'i losgi yn ardal Llanllechid, Gwynedd.

Dywed yr heddlu bod y cerbyd wedi ei ddwyn o gyfeiriad yn Engedi, Ynys Môn.

Dywedodd Ditectif Prif Uwch-arolygydd Wayne Jones: "Fel rhan o'r ymchwiliad i lofruddiaeth Mr Corrigan, rydym am wybod beth oedd symudiadau'r Land Rover Discovery ar 3 Mehefin.

"Rwyf yn apelio ar unrhyw un a welodd y cerbyd hwn yn teithio o Engedi i Lanllechid i gysylltu â ni."

36 awr arall i holi

Ar 25 Mehefin, fel rhan o'r ymchwiliad i'r llosgi, cafodd dau ddyn o ogledd Gwynedd eu harestio ar amheuaeth o gynllwyn i gyflawni llosgi bwriadol a chynorthwyo troseddwr, meddai'r heddlu.

Mae tri chyfeiriad lleol sy'n gysylltiedig â nhw wedi'u chwilio.

Ychwanegodd Ditectif Prif Uwch-arolygydd Jones: "Mae'n gynnar yn yr ymchwiliad ac mae'r ddau ddyn wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu yn amodol ar ragor o ymholiadau.

"Roedd yr arestiadau hyn yn ychwanegol at y rhai a arestiwyd mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Corrigan."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Gerald Corrigan i Ynys Môn wedi iddo ymddeol dros 20 mlynedd yn ôl

Ddydd Mercher, cafodd Heddlu Gogledd Cymru 36 awr arall i holi'r pedwar sydd wedi'u harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Corrigan a throseddau cysylltiedig.

Dywedodd Ditectif Prif Uwch-arolygydd Jones: "O'n hymholiadau hyd yma, mae'r holl arwyddion yn awgrymu bod Gerald Corrigan wedi'i dargedu'n fwriadol a'i saethu y tu allan i'w gartref.

"Yr wyf yn hynod ddiolchgar i'r rheiny sydd eisoes wedi cyflwyno gwybodaeth, ond yr wyf yn sicr bod yna bobl yn ein cymuned sydd â gwybodaeth allweddol sydd eto i gysylltu â ni.

"Apeliaf arnynt i ddod ymlaen a siarad â ni yn gwbl gyfrinachol."