Marwolaeth bwa croes: Archwilio sawl eiddo ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
bryngwran
Disgrifiad o’r llun,

Roedd un o'r tri eiddo ym Mryngwran

Mae timau heddlu arbenigol wedi bod yn archwilio tri eiddo ar Ynys Môn mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i lofruddiaeth Gerald Corrigan.

Mae tri dyn yn parhau yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth, ac mae dynes hefyd yn y ddalfa mewn cysylltiad â throseddau twyll ac ariannol honedig.

Bu farw Mr Corrigan, 74, yn ysbyty Stoke fis Mai wedi iddo gael ei saethu wrth drwsio lloeren ar wal ei dŷ ar 19 Ebrill.

Mae timau fforensig yn archwilio'r tri eiddo yn ardaloedd Caergeiliog a Bryngwran.

Dywedodd y Ditectif Prif Uwch-Arolygydd Wayne Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth a'r gefnogaeth a gafwyd gan y gymuned hyd yn hyn, ond rydym yn parhau i apelio i'r rhai allai fod â gwybodaeth bellach, waeth pa mor ddibwys y maen nhw'n credu yw'r wybodaeth.

"Rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i siarad gyda ni yn gyfrinachol, neu i ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111."

Cafodd angladd Mr Corrigan ei gynnal yn Knutsford, Sir Caer, ddydd Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Gerald Corrigan i Ynys Môn wedi iddo ymddeol dros 20 mlynedd yn ôl