Merch, 17, wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai merch 17 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng dau gar yn Sir Ddinbych nos Iau.
Fe gafodd tri hofrennydd eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr B5105 yn Efenechtyd, sydd rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion.
Dywedodd yr heddlu bod y ferch yn teithio mewn Ford Fiesta coch oedd mewn gwrthdrawiad â Mercedes C-Class du am 19:30.
Bu farw yn y fan a'r lle.
Cafodd gyrrwr y Ford, bachgen 17 oed, a dwy ferch arall oedd yn teithio yn y car, 16 ac 17 oed, eu cludo i Ysbyty Stoke mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol.
Cafodd gyrrwr y Mercedes, dyn 52 oed, a dynes 76 oed oedd yn y car eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywydau.
Dywedodd y Prif Arolygydd Alun Oldfield o Heddlu Gogledd Cymru bod ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
"Hoffwn glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd neu welodd y gwrthdrawiad neu'r digwyddiadau cyn hynny.
"Rydyn ni hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un allai fod yn teithio yn yr ardal ar y pryd sydd â lluniau dash-cam."
Cafodd criwiau'r Gwasanaeth Tân ac Achub o Ddinbych a Rhuthun eu galw i'r digwyddiad, a bu'r ffordd ar gau am rai oriau.
Mae'r ffordd bellach wedi ail-agor.
Dylai unrhyw un all gynorthwyo'r heddlu gyda'r ymchwiliad gysylltu gyda nhw ar 101.