'Dylai cynlluniau rhannu beiciau ddarparu helmedau'
- Cyhoeddwyd
Dylai cynlluniau rhannu beiciau ddarparu helmedau i'w defnyddwyr, yn ôl seiclwr o Dreorci a gafodd ddamwain difrifol.
Dywedodd meddygon wrth Carl Edwards y byddai wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar oni bai bod ei helmed wedi lliniaru'r gwrthdrawiad.
Mae pencampwr y Tour de France, Geraint Thomas ymhlith y rhai sydd wedi galw am wneud helmedau yn "orfodol" i bob beiciwr yn y DU.
Ond mae cwmnïau sy'n gyfrifol am gynlluniau o'r fath yn dweud y byddai darparu helmedau'n creu problemau o ran cynnal a chadw, achosion o'u colli a'u dwyn ac anghenion amrywiol seiclwyr gwahanol.
Mae 70% o'r damweiniau angheuol neu ddifrifol wrth seiclo ar draws y DU yn digwydd mewn mannau trefol lle mae cynlluniau fel Nextbike a Santander Cycles yn boblogaidd.
Ar hyn o bryd nid oes rhaid i bobl wisgo helmed tra'n seiclo.
'Ffodus'
Roedd Mr Edwards, 50, yn seiclo ar Sul y Tadau bythefnos yn ôl pan gafodd ei daro gan gar ar gylchfan.
Roedd yn anymwybodol am gyfnod ar ôl taro cefn ei ben wedi iddo gael ei "daflu i'r awyr" gan y car.
Cafodd anaf i asgwrn yn ei wddf a chleisio difrifol i'w ysgyfaint, ysgwydd a chlun, ond mae'n ystyried ei hun yn "ffodus".
"Dywedodd y meddygon yn yr ambiwlans awyr a'r ysbyty fyddwn i wedi marw oni bai am yr helmed," meddai.
"Rydw i wastad wedi gwisgo helmed ond dim ond pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd rydych chi'n llwyr sylweddoli pan mor werthfawr ydyn nhw. Fe allai wedi bod yn llawer gwaeth."
Dirwy am beidio gwisgo helmed?
Mae yna fwriad i ddyblu'r rhwydwaith Nextbikes yng Nghaerdydd gan ddarparu 500 o feiciau ychwanegol a chreu 38 o safleoedd newydd er mwyn eu cadw a'u casglu.
"Mae'n wych bod gymaint o bobl yn seiclo oherwydd y cynlluniau yma, oherwydd mae'n lleihau llygredd a thraffig ond rwy'n blino gweld pobl ddim yn gwisgo helmedau, yn arbennig plant," meddai Mr Edwards.
"Ugain mlynedd yn ôl roedd helmedau'n edrych fel bwced gyda strap... erbyn hyn maen nhw'n ffitio'n well ac wedi eu dylunio'n fwy deniadol. A dydyn nhw ddim mor ddrud â hynny o ystyried y potensial i achub eich bywyd.
"Bydde dim ots gen i weld seiclwyr yn cael dirwy am beidio â'u gwisgo."
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) hefyd o blaid gwneud gwisgo helmedau'n orfodol ond yn cadw meddwl agored ynghylch newid barn ar y mater ar sail tystiolaeth.
Mae'r corff Cycling UK yn mynnu bod seiclo yn gymharol ddiogel, a bod y peryglon yn fach o ystyried y buddion iechyd.
Dywedodd Cycling UK mewn datganiad: "Rydych yr un mor annhebygol o gael eich lladd wrth seiclo am filltir nag ydych chi wrth gerdded am filltir."
Mae nhw hefyd yn credu "nad oes cyfiawnhad" i wneud gwisgo helmedau'n orfodol gan ddweud bod hi'n "bell o fod yn glir" pa mor effeithiol ydyn nhw.
'Tystiolaeth amhendant'
Mae'r elusen Sustrans hefyd yn dweud bod y dystiolaeth am effaith helmedau yn "amhendant".
Credai'r elusen y byddai gorfodi pobl i wisgo helmedau'n eu "rhwystro" rhag seiclo "a hefyd yn danfon neges bod teithio ar feic yn beryglus".
Er hynny mae'r ddau gorff yn cytuno bod angen gwneud mwy i addysgu gyrwyr a seiclwyr, ac i wella a chynyddu'r nifer o lonydd seiclo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd26 Awst 2018