Alun Cairns: 'Johnson am amddiffyn y Deyrnas Gyfunol'
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai Boris Johnson yn sefydlu "uned" arbennig i sicrhau bod pob rhan o'r Deyrnas Gyfunol yn cael ei wasanaethu'n gywir os daw'n Brif Weinidog, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd Alun Cairns wrth BBC Cymru y byddai tîm o ymgynghorwyr yn edrych ar sut mae materion dyddiol yn effeithio ar y Deyrnas Gyfunol.
Mae Mr Johnson yn herio'r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt mewn ras i fod yn brif weinidog ac yn arweinydd ar y Blaid Geidwadol.
Ychwanegodd Mr Cairns, sydd eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Mr Johnson, y byddai'r newidiadau yn sicrhau bod lleisiau pob rhanbarth yn cael eu clywed.
"Mae hyn yn dangos ei fod yn derbyn bod sensitifrwydd ymhob rhan o'r wlad yn ogystal â bod â'r weledigaeth i sicrhau Brexit," meddai.
Mae Mr Johnson hefyd wedi dweud y byddai'n ychwanegu "Gweinidog y Deyrnas Gyfunol" i deitl y swydd pe bai'n cael ei ddewis fel arweinydd.