Tasglu Ford yn cwrdd am y tro cyntaf ers cadarnhad cau

  • Cyhoeddwyd
Ford workers in BridgendFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 1,700 o swyddi yn cael eu colli yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont

Mae tasglu newydd i gefnogi gweithwyr Ford yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ddydd Llun wedi'r cyhoeddiad y bydd y ffatri yn cau flwyddyn nesaf.

Bydd 1,700 o swyddi yn cael eu colli.

Cadeirydd y tasglu ydy'r Athro Richard Parry-Jones, cadeirydd Fforwm Modurol Cymru.

Roedd disgwyl cynrychiolwyr o Ford, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig, undebau, y cyngor lleol ac eraill yn y cyfarfod.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Ken Skates

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Ken Skates

Bwriad y tasglu yw:

  • Cynorthwyo gweithwyr yn y ffatri a'r gadwyn gyflenwi;

  • Edrych ar bosibilrwydd tymor hir ar gyfer y safle a denu buddsoddiad newydd;

  • Bwrw golwg ar yr effaith ehangach ar y gymuned.

Mae'r tasglu yn cael ei noddi ar y cyd gan Weinidog yr Economi, Ken Skates ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Dywedodd Mr Skates: "Rydyn ni wedi gweld pa mor lwyddiannus y gall tasglu fel hyn fod yn y dasg o gyfuno sgiliau â chyfleon eraill yng Nghymru ac mae'n hynod bwysig bod y tasglu hwn yn helpu busnesau sy'n ddibynnol ar Ford i oroesi ac i symud ymlaen yn hyderus wedi'r fath ergyd."