Undebau Ford Pen-y-bont i drafod gweithredu posib
- Cyhoeddwyd
Bydd undebau gweithwyr Ford ym Mhen-y-bont yn trafod ag aelodau ynglŷn â sut i weithredu yn sgil y penderfyniad i gau'r safle.
Cyhoeddodd y cwmni ddydd Iau y bydd y ffatri yn cau ym mis Medi 2020, gyda cholled o 1,700 o swyddi.
Fe wnaeth undebau Unite a'r GMB gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ddydd Llun.
Dywedodd y GMB nad oes hawl gan Ford i "lithro i ffwrdd... gan adael cymuned wedi ei ddinistrio ar ei ôl".
Fe wnaeth y gweithwyr ddychwelyd i'r ffatri ddydd Llun am y tro cyntaf ers y cyhoeddiad.
Dywedodd Ford mewn datganiad yr wythnos ddiwethaf mai "tanddefnydd" ac anghyfartaledd costau o'i gymharu â ffatrïoedd eraill sydd wedi arwain at gau'r safle.
Dywedodd Mike Payne, llefarydd ar ran GMB: "Mae gweithwyr Ford yn dychwelyd i'r ffatri heddiw, a hynny am y tro cyntaf ers y penderfyniad gwarthus i gau'r safle.
"Nid oes gan y cwmni hawl i lithro i ffwrdd o Ben-y-bont gan adael cymuned wedi ei ddinistrio ar ei ôl.
"Mae dros hanner y gweithlu yn benderfynol o aros ym Mhen-y-bont. Os yw Ford yn credu eu bod nhw'n gallu dianc, maen nhw'n anghywir."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i Ford gyflawni eu hymrwymiadau i'r gweithlu ym Mhen-y-bont."
'Diffyg cefnogaeth'
Ddydd Sul cafodd cynnig brys ei basio yng nghynhadledd flynyddol undeb GMB yn Brighton.
Roedd y cynnig yn nodi bod yn rhaid i weithwyr Ford ar draws y DU frwydro gyda'u cydweithwyr ym Mhen-y-bont yn erbyn cau'r ffatri.
Mae cynllun Ford yn cynnwys symud rhai o weithwyr Pen-y-bont i safleoedd eraill y cwmni yn y DU, ond mae'n bosib na fydd hynny'n bosib i nifer.
Dywedodd Jennifer Smith, un o gynrychiolwyr yr undeb, bod cau'r ffatri yn "enghraifft arall o ddiffyg cefnogaeth gan lywodraeth ganolog i'r diwydiant cynhyrchu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019