Cyhuddo dyn, 80, o lofruddio menyw, 77, yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Bu farw Mavis Long ar 10 Mai
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ladd menyw 77 oed yng Ngheredigion yn gynharach eleni.
Cafwyd hyd i gorff Mavis Long mewn tŷ yn ardal Pennant ger Aberaeron ar 10 Mai.
Bydd Frank Long, 80, yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Long y byddai "colled enfawr ar ei hôl".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019