Jess Fishlock allan am o leiaf chwe mis gydag anaf

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock oedd y chwaraewr pêl-droed cyntaf i ennill 100 o gapiau dros Gymru

Ni fydd chwaraewr canol cae Cymru, Jess Fishlock ar gael i chwarae nes o leiaf mis Ionawr 2020 ar ôl dioddef anaf difrifol i'w phen-glin.

Fe gafodd Fishlock, 32, ei anafu tra'n chwarae dros Reign FC yn Seattle yng nghynghrair yr Unol Daleithiau.

Mae'n golygu y bydd hi'n colli pedair gêm gyntaf tîm merched Cymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 2021.

Fe fydd Fishlock - y chwaraewr pêl-droed cyntaf i ennill 100 o gapiau dros Gymru - yn cael llawdriniaeth ddydd Llun.

Daw lai na deufis ers iddi ennill Cynghrair y Pencampwyr tra ar fenthyg gyda chlwb Lyon yn Ffrainc.

"Rydw i'n amlwg yn siomedig, ond yn hyderus yn fy ngallu i ddod yn ôl yn gynnar y flwyddyn nesaf," meddai.

"Mae'r tîm meddygol wedi bod mor galonogol, felly rwy'n disgwyl cael y llawdriniaeth y tu ôl i mi a dechrau gyda'r rehab yr wythnos nesaf."