Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi gweledigaeth i leihau traffig
- Cyhoeddwyd
![Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/FA86/production/_107743146_gettyimages-969612364.jpg)
Dan y cynllun byddai Caerdydd yn troi'n ddinas 20mya
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi eu gweledigaeth i drawsnewid y system drafnidiaeth yn y brifddinas.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys llinell reilffordd i gysylltu dwyrain a gorllewin Caerdydd, a llinell arall fyddai'n mynd o amgylch y ddinas.
Nod y cynllun, fyddai'n costio £1bn, yw lleihau traffig a gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd.
Dan y cynllun byddai Caerdydd yn troi'n ddinas 20mya, gyda llwybrau cerdded a seiclo newydd yn cael eu creu i annog pobl o'u ceir.
Wrth siarad yng Nghynhadledd Llywodraeth Cymru ar Deithio Llesol, dywedodd arweinydd y cyngor, Huw Thomas ei bod yn "amser gweithredu ar anghenion trafnidiaeth y ddinas".
![Map](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16FB6/production/_107743149_ed6fd3a3-3fc2-47ef-a03d-f5c92ac340fc.jpg)
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi map o'r cynigion am linellau rheilffordd newydd
![line break](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/F252/production/_107743026_9e8ca748-0676-4060-b0d2-ecd1a193280b.gif)
Byddai'r mesurau newydd yn cynnwys:
Trên Bach Caerdydd - llinell reilffordd/tram newydd ysgafn o'r dwyrain i'r gorllewin, gan gysylltu canolfannau poblogaeth mawr a maestrefi newydd yn y gorllewin â Chanol Caerdydd;
Cylchred Caerdydd - llinell reilffordd/tram ysgafn i gysylltu ardaloedd preswyl mawr â'r rhwydwaith trafnidiaeth;
Parcio a theithio ger cyffordd 32 yr M4 wedi'i gysylltu â'r Gylchred;
Rhwydwaith Trafnidiaeth Bws Cyflym newydd sy'n defnyddio cerbydau gwyrdd a thrydanol;
Beicffyrdd a llwybrau cerdded diogel newydd sy'n cysylltu â rhwydweithiau bws, trên a thram;
System docynnu integredig sy'n galluogi defnyddwyr i symud o un dull trafnidiaeth i'r llall yn hawdd;
Gwneud Caerdydd yn ddinas 20mya.
![line break](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/CB42/production/_107743025_0673e9ab-5794-4c61-be69-4a9906b84280.gif)
![Huw Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/5612/production/_107743022_huwthomas.jpg)
Dywedodd Huw Thomas ei bod yn "amser gweithredu ar anghenion trafnidiaeth y ddinas"
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae angen i rwydwaith trafnidiaeth Caerdydd newid.
"Cafodd ei ddylunio'n wreiddiol i ddinas â phoblogaeth o 200,000 ond heddiw mae ein poblogaeth yn agosach at 400,000 ac mae 80,000 o bobl yn ychwanegol yn teithio i'r gwaith yn y ddinas yn eu ceir bob dydd.
"Mae'n amlwg i bawb nad yw'r sefyllfa'n gynaliadwy. Mae gennym rwydwaith sydd eisoes yn gwegian. Mae popeth yn stopio os yw un ffordd yn y ddinas yn cau.
"Mae'n amlwg na fyddwn yn llwyddo dros nos, ond heddiw rydym yn cyflwyno dyhead y cyngor gan gydnabod yn llawn y bydd angen gweithio'n effeithiol gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
"Mae angen hefyd drafodaeth gyhoeddus ddwys am sut mae modd ariannu'r weledigaeth hon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019