Arestio dyn ar amheuaeth o greu cythrwfl yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Dywed yr heddlu eu bod wedi cau'r ffordd "fel mater o ragofal" er mwyn gwarchod diogelwch y cyhoedd
Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd, lle cafodd heddlu arfog eu galw nos Lun.
Mae'r dyn lleol wedi ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi cythrwfl (affray) mewn cysylltiad ag adroddiadau o ffrwgwd ymysg criw o ddynion ar Ffordd Newydd yn ardal Tredelerch o'r ddinas.
Mae'r heddlu'n dal i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.
Cafodd heddlu arfog eu galw nos Lun, yn dilyn adroddiadau fod trigolion wedi clywed synau tebyg i "ergydion gwn".
Dywedodd Heddlu De Cymru ar y pryd, fod swyddogion arfog yn yr ardal "fel mater o ragofal" er mwyn gwarchod diogelwch y cyhoedd, ond roedden nhw'n pwysleisio nad oedd adroddiadau o unrhyw anafiadau.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal Rhymni o Gaerdydd nos Lun
Fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi derbyn gwybodaeth bod rhai o'r dynion oedd yn rhan o'r ffrwgwd honedig wedi eu harfogi.
Cafodd y stryd ei chau tra bod yr ymchwiliadau'n parhau nos Lun.