Honiadau o gam-ddefnyddio camerâu y Llyfrgell Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n gyfrifol am warchod data yn y DU yn ymchwilio i honiadau o gam-ddefnyddio camerâu cylch cyfyng yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Fe gadarnhaodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) eu bod nhw'n edrych ar y mater ac yn gwneud ymholiadau.
Mae honiadau bod aelod o staff wedi gwneud defnydd amhriodol o'r camerâu o fewn y llyfrgell.
Dywedodd ICO mai'r llyfrgell wnaeth gyfeirio'r digwyddiad atyn nhw a'u bod nhw bellach yn ymchwilio'r mater.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.