Mark Drakeford 'ddim yn agored i annibyniaeth' i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi pwysleisio ei ymrwymiad i'r Deyrnas Unedig yn y Senedd wedi i Blaid Cymru awgrymu ei fod yn agored i Gymru annibynnol.
Roedd Mark Drakeford wedi dweud wrth bwyllgor Cynulliad ddydd Llun nad oedd ei gefnogaeth i'r DU yn "ddiamod".
Ond dywedodd ddydd Mawrth nad yw'n credu y byddai pleidleiswyr Cymru yn cefnogi annibyniaeth.
Dywedodd wrth ACau bod ei gefnogaeth o'r DU yn "glir".
Daw wedi i'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones ddweud fis diwethaf bod y "llanast" yn San Steffan yn gwneud pobl yn chwilfrydig am annibyniaeth i Gymru.
Dywedodd Mr Drakeford wrth y pwyllgor ddydd Llun: "Os ydych chi'n credu mai cysylltiad gwirfoddol o bedair gwlad yw'r DU, mae'n rhaid i chi wynebu'r posibilrwydd y gall rhai o'r rhannau hynny benderfynu peidio â bod yn rhan ohono.
"Pe bai dyma'r achos yn y dyfodol yna, wrth gwrs, byddai'n rhaid i unrhyw blaid neu lywodraeth synhwyrol ailasesu lle Cymru fel cydran.
"Felly, mewn ystyr, ni all fod yn ddiamod oherwydd mae rhannau eraill yma, rhai nad ydyn ni'n eu rheoli."
Dywedodd Plaid Cymru bod y sylwadau'n awgrymu y gallai gefnogi annibyniaeth i Gymry yn y dyfodol, ond mae Mr Drakeford wedi gwadu hynny'n gryf.
'Dim amwysedd'
Yn y siambr ddydd Mawrth, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ofyn i Mr Drakeford os oedd yn agored i'r syniad o Gymru annibynnol.
Atebodd Mr Drakeford: "Mae Plaid Cymru yn sefyll yn glir am annibyniaeth - maen nhw'n benderfynol o gymryd Cymru allan o'r Deyrnas Unedig.
"Rwy'n hapus mai dyna'r achos, oherwydd dydw i ddim yn meddwl am eiliad bod pobl Cymru yn rhannu'r safbwynt hynny, a dydw i yn bendant ddim.
"Mae Llafur Cymru o blaid cadw Cymru yn y Deyrnas Unedig. Does dim amwysedd ynglŷn â hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019