Llety Arall Caernarfon yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd BBC Cymru Fyw gipolwg y tu mewn i'r adeilad cyn iddo agor i'r cyhoedd

Mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon ddydd Iau i ddathlu carreg filltir yn hanes menter gymunedol yn y dref.

Mae Llety Arall wedi ei leoli ar Stryd y Plas, ger y castell yng Nghaernarfon, ac mae'n darparu lle i aros ar gyfer grwpiau bychain, teuluoedd, oedolion a phobl ifanc.

Mae'r digwyddiad ddydd Iau yn nodi fod y llety bellach wedi agor saith llofft, a bod ymwelwyr eisoes wedi bod yn aros yno.

Gweledigaeth criw o bobl leol dan arweiniad pwyllgor sy'n cynnwys pensaer lleol, Sel Jones oedd sefydlu llety sy'n dathlu treftadaeth y dref, yn ogystal â gwella profiad ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Rhys Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llety Arall wedi ei leoli ar Stryd y Plas yng Nghaernarfon

Mae amrywiaeth o 'stafelloedd ar gael yn y llety, rhai yn addas i deuluoedd neu grŵp bach sydd am rannu ystafell, eraill yn ystafelloedd dwbl ac un ystafell ble mae modd talu am wely a rhannu'r ystafell â rhywun arall.

Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts fydd yn agor y llofftydd yn swyddogol ddydd Iau ar ôl dros flwyddyn o waith yn adnewyddu'r adeilad.

Dywedodd y comisiynydd ei bod yn "braf gweld menter gymunedol fel hyn yn gwneud rhywbeth ymarferol i helpu cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr".

"Wrth gerdded o gwmpas Caernarfon cewch brofiad unigryw o glywed y Gymraeg ym mhob man - Cymraeg yw iaith y cyrff cyhoeddus, llawer o fusnesau, y dafarn a'r stryd.

"Mae'r dref ei hun yn ased anhygoel i ni fel Cymry."

Ffynhonnell y llun, Rhys Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llety'n darparu lle i aros ar gyfer grwpiau bychain, teuluoedd, oedolion a phobl ifanc

Er mwyn datblygu Llety Arall, roedd yn rhaid i'r pwyllgor werthu cyfranddaliadau yn y fenter, gyda phob cyfran yn £250 yr un, ac erbyn hyn mae dros 300 gyfranddalwyr.

Dywedodd un o aelodau bwrdd Llety Arall, Menna Machreth ei bod yn "braf iawn gallu croesawu pobl i aros yn Llety Arall wedi blwyddyn o waith caled yn adnewyddu'r adeilad".

"Ein neges ni heddiw yw dewch i aros a dewch i gael profiad cwbl unigryw o'r Gymraeg," meddai.

"Rydym yn gwneud ein gorau i brynu cynnyrch lleol, a defnyddio cyflenwyr a chrefftwyr lleol, ac yn gobeithio denu disgyblion ysgol, teuluoedd, grwpiau o ddysgwyr a theithwyr annibynnol sydd â diddordeb yn ein hiaith a'n treftadaeth, a chredwn fod gennym gyfleusterau fydd yn ateb gofynion ystod eang o bobl."

Erbyn mis Hydref, mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd cam nesaf y prosiect wedi ei orffen, ac y bydd llawr gwaelod yr adeilad yn cynnig llofft â mynediad cadair olwyn, cegin ac ystafell gymunedol.