Bandiau pres mewn ffrae am drwyddedau perfformio i blant
- Cyhoeddwyd
Fe allai plant gael eu gorfodi i ymuno gyda bandiau pres gwirfoddol yn y dyfodol yn dilyn ffrae am drwyddedau.
Yn gyfreithiol, mae bandiau angen trwydded ar gyfer plant dan 16 i gystadlu, ond maen nhw'n teimlo dylai hynny ond sefyll ar gyfer rhai sy'n derbyn tâl.
Mae trwydded berfformio plant yn gwarchod plant rhag cael eu hecsploetio yn y gweithle ac yn cael ei dosbarthu gan gynghorau sir.
Mae rhai eisiau ei gweld yn diflannu ac mae eraill wedi cwyno ynglŷn â'r rheolau gwahanol sydd gan wahanol awdurdodau lleol.
'Biwrocratiaeth'
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'r drwydded wedi cynllunio i fod yn fwrn.
Dim ond ym mis Mawrth y cafodd fandiau wybod am y ddeddf ar ôl i Brass Bands England roi neges ar Facebook ynglŷn â'r angen i drwyddedu pob offerynnwr dan 16 cyn pencampwriaeth ranbarthol yng Ngogledd Cymru.
Yn ôl Gary Pritchard, ysgrifennydd Seindorf Biwmares, mae'r drwydded yn "lefel ychwanegol o fiwrocratiaeth."
"Hoffem weld bandiau pres yn cael eu tynnu i ffwrdd o'r drwydded berfformio i blant, yn yr un modd nad yw clybiau chwaraeon yn gorfod cael yr un math o ddeddfwriaeth," meddai.
Mae bandiau eraill yn galw ar y cais drwyddedu i fod yn symlach gan fod gan wahanol gynghorau ofynion gwahanol, sy'n arwain at anghysondeb.
'Safoni'
Mae Philip Rogers o Fand Pres Rhydaman yn dweud ei fod yn "gweld i raddau pam fod y rheolau mewn grym."
"Rydym ni yn lwcus, ond mae rhai bandiau gyda dros 20 o unigolion ac mae llenwi'r gwaith papur i'r rheiny yn gallu bod yn gostus iawn dybiwn i.
"Mae'r cynghorau i gyd yn gweithredu'n wahanol ac os byddai'r rhain i gyd yn cael eu safoni mi fase pawb yn hapus.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Pwrpas trwydded berfformio plentyn yw diogelu plant sy'n cymryd rhan mewn perfformiad neu weithred arall.
"Nid ei fwriad yw bod yn fwrn, ond i fod yn gam hanfodol i ddarparu sicrwydd fod ein plant wedi'u diogelu'n iawn wrth berfformio neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.
"Byddwn yn codi'r mater gyda'n llywodraethau lleol i edrych os gellir gwneud mwy i wneud y broses yn un mwy cyson heb beryglu diogelwch y plentyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019