Dyn wedi marw ar ôl i'w gar adael y ffordd ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y car adael y ffordd toc cyn hanner nos ger pentref Llanbister
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A483 ym Mhowys nos Iau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod car Seat wedi gadael y ffordd toc cyn hanner nos ger pentref Llanbister.
Bu farw'r gyrrwr - yr unig berson oedd yn y car - yn dilyn y digwyddiad.
Mae'r heddlu'n annog unrhyw dystion i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.