Guto Bebb ddim am fod yn ymgeisydd dros y Ceidwadwyr eto

  • Cyhoeddwyd
Guto Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Guto Bebb wedi bod yn AS dros Aberconwy ers Mai 2010

Mae Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb wedi cyhoeddi na fydd yn cynnig am enwebiad y Blaid Geidwadol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru fe ddywedodd ei fod wedi meddwl yn hir cyn dod i'r penderfyniad hwnnw.

Mae Mr Bebb wedi bod yn AS dros etholaeth Aberconwy am dros naw mlynedd.

"Dwi wedi bod yn ystyried be dwi'n mynd i'w wneud yn wleidyddol ers cryn dipyn, achos yn naturiol dwi ddim yn hapus iawn efo'r ffordd mae'r Blaid Geidwadol yn mynd ar y funud," meddai.

"Yn enwedig felly'r ymgyrch arweinyddol, sydd wedi dangos i mi fod 'na agweddau o fewn y Blaid Geidwadol sydd ddim yn apelio o gwbl."

'Apelio at yr eithafon'

Fel un sy'n gynyddol anfodlon â chyfeiriad y Ceidwadwyr mae wedi penderfynu na all sefyll eto yn enw'r blaid.

"Dwi hefyd yn meddwl fod rhaid i rywun fod yn hollol onest gyda'r etholwyr," meddai.

"Dwi wedi gwrando yn astud iawn ar y ddau sy'n ymgiprys am yr arweinyddiaeth a dwi wedi dod i'r casgliad na allwn i ddim, efo unrhyw gydwybod, fod yn cynnig fy hun fel ymgeisydd sy'n cytuno efo'r arweinyddiaeth.

"Yr hyn sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf ydy bod y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi golygu fod 'na dueddiad o fewn y blaid i apelio at yr eithafon.

"Er gwaethaf popeth dydw i ddim yn credu 'mod i'n genedlaetholwr Saesnig, ac yn gynyddol amlwg i mi mae'r Blaid Geidwadol yn apelio at y math o genedlaetholdeb hwnnw sydd wedi gweld twf UKIP yn y gorffennol a thwf Plaid Brexit bellach."

Johnson yn 'drychinebus'

Ychwanegodd Mr Bebb y byddai Boris Johnson - y ceffyl blaen yn y ras am arweinyddiaeth - yn brif weinidog "trychinebus".

Awgrymodd Mr Bebb fod cyn-Faer Llundain un ai'n dweud celwydd neu ddim yn gwneud y gwaith cartref angenrheidiol, a bod hynny'n ddychrynllyd mewn darpar brif weinidog.  

Mae Mr Bebb yn rhagweld y bydd etholiad cyffredinol cyn y gwanwyn gan na fydd y prif weinidog nesaf yn gallu gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ddiwedd mis Hydref oherwydd y rhifyddeg seneddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Bebb y byddai Boris Johnson yn brif weinidog "trychinebus"

Cyn ymuno â'r Blaid Geidwadol roedd Mr Bebb yn aelod o Blaid Cymru, ond fe wrthododd yr awgrym y gallai ailymuno â'r blaid honno.

"Dwi ddim yn credu fod Plaid Cymru wedi newid llawer. Dydw i ddim yn credu fy mod yn coleddu rhai o'u hagweddau economaidd nhw," meddai.

"Dwi'n ystyried fy hun yn Gymro… 'mod i'n gallu bod yn gwbl gyfforddus efo'r syniad o fod yn rhan o'r undeb ym Mhrydain a'r undeb yn Ewrop.

"Yr hyn sydd ddim yn bosib i rywun fel fi ei wneud ydy coleddu'r math o genedlaetholdeb Saesnig 'da ni rŵan yn ei weld yn y Blaid Geidwadol.

"Dydw i ddim yn un sy'n coleddu cenedlaetholdeb ar ei waetha' mewn unrhyw gyd-destun, ac yn sicr mae'r cenedlaetholdeb 'da ni'n weld ar y funud yn y Blaid Geidwadol yn fy mhoeni i."

Mae modd gwrando ar y sgwrs yn llawn yma.