'Dim amheuaeth' bod gwrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Davies bod "y broblem yn cael ei hanwybyddu" gan Jeremy Corbyn

Does "dim amheuaeth" bod gwrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur, yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru Alun Davies.

Roedd Aelod Cynulliad Blaenau Gwent yn ymateb i raglen Panorama y BBC ddydd Mercher, oedd yn ymchwilio i honiadau o wrth-Semitiaeth o fewn y blaid.

Clywodd y rhaglen honiadau bod ffigyrau blaenllaw o fewn y Blaid Lafur wedi ymyrryd yn y broses ddisgyblu yn erbyn y rheiny oedd wedi'u cyhuddo o wrth-Semitiaeth.

Yn y cyfamser mae cynrychiolydd Cymru ar bwyllgor gwaith Llafur wedi amddiffyn y blaid yn erbyn honiadau o wrth-Semitiaeth sefydliadol.

'Anwybyddu'r broblem'

Dywedodd Mr Davies ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul BBC Radio Cymru: "Yn ystod yr wythnos ddiwethaf dwi'n meddwl bod y Blaid Lafur wedi delio â rhaglen Panorama mor wael â phosib.

"Nid ymosodiadau ar y BBC yw'r ffordd i ddelio â hyn. Mae 'na wrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur - does dim amheuaeth am hynny.

"Dwi wedi bod ar baneli dadleuon y Blaid Lafur, dwi wedi gweld fy hun sut mae'r peth yn digwydd - dwi wedi dod ar draws hynny.

"Gyda [Jeremy] Corbyn a'i swyddfa mae'r broblem yn cael ei hanwybyddu ambell waith, ac maen nhw'n treial llechio fe o dan y carped yn lle delio gydag e.

"Yr ymateb ddylai fod wedi digwydd i Panorama yn ystod yr wythnos oedd cymryd y peth o ddifrif, gwrando ar beth mae pobl yn ei ddweud ac ymateb i hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Williams wedi amddiffyn y blaid yn erbyn honiadau o wrth-Semitiaeth sefydliadol

Dywedodd cynrychiolydd Cymru ar bwyllgor gwaith y blaid, Darren Williams, bod Llafur yn mynd i'r afael â'r pryderon am wrth-Semitiaeth.

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales dywedodd Mr Williams bod daliadau o'r fath yn "ffiaidd" a bod dim lle iddo yn y blaid a bod Llafur yn mynd i'r afael â'r pryderon.

Ychwanegodd bod rhaglen Panorama wedi "methu â chael cydbwysedd" a'i fod wedi cyflwyno "un safbwynt yn unig".

Fe wnaeth swyddfa Mr Corbyn wrthod cyfweliad â'r rhaglen, ond dywedodd Mr Williams bod hynny oherwydd bod y blaid "yn credu bod record y newyddiadurwr oedd yn gyfrifol yn golygu nad oedden nhw am gael gwrandawiad teg".