Rhoi lliw ar hen luniau

  • Cyhoeddwyd
Taid Gwynant ParriFfynhonnell y llun, Gwynant Parri
Disgrifiad o’r llun,

Huw Jones 'Taid Deiniolen', sef taid Gwynant Parri yn ystod yr Ail Ryfel Byd

"Mae lliwio lluniau'n dod â nhw'n fyw a dw i'n hapusach bod nhw'n fyw a ddim yng nghefn drôr."

Dyma pam mae'r ffotograffydd Gwynant Parri o Benygroes â'i fryd ar liwio hen luniau du a gwyn. Ers cael diagnosis Parkinson's, mae Gwynant wedi bod yn trin hen ffotograffau gan obeithio cyhoeddi llyfr o'i waith yn y pen draw.

Dywedodd Gwynant: "Mae tynnu lluniau wedi bod yn ran ohona'i erioed ond ers i fi gael Parkinson's dw i wedi gorfod arafu lawr. Dw i'n gweld bod pawb arall yn symud yn sydyn o 'ngwmpas i a dw i'n symud yn ara' deg.

"Mae lliwio lluniau yn rywbeth dw i'n gallu gwneud yn ara' deg yn f'amser fy hun. 'Dw i'n gallu stopio pan mae'n ormod i fi.

"Mae angen i bobl weld yr hen luniau yma a gweld nhw'n dod yn fyw efo lliw."

Ffynhonnell y llun, Gwynant Parri
Disgrifiad o’r llun,

Y ffotograffydd Gwynant Parri

Parkinson's

Ar ôl dros 20 mlynedd o dynnu lluniau mewn ysgolion bu raid i Gwynant roi'r gorau i'r gwaith yn dilyn y diagnosis Parkinson's.

Meddai: "Roedd hwnnw'n glec mawr i 'musnes ffotograffiaeth i. Dw i'n cario mlaen gyda'r gwaith stiwdio ond efo Parkinson's, mae 'na adegau lle dw i'n methu gwneud dim byd a 'dw i wedi gorfod canslo gwaith.

"Efo lliwio lluniau du a gwyn, mae'n rhywbeth allaf i wneud yn ara' deg. Allaf i gau fy hun mewn ystafell a chanolbwyntio ar wneud y lluniau."

Ffynhonnell y llun, John Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Merched Cymru

Ffynhonnell y llun, John Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Merched Cymru, wedi eu lliwio gan Gwynant Parri

Ennyn emosiwn

A sut ymateb mae'r lluniau wedi eu cael?

Yn ôl Gwynant: "Dw i wedi dangos rhai o'r lluniau mewn lliw am y tro cynta' i bobl ac mae'n dod â deigryn.

"Mae plentyn yn edrych ar lun du a gwyn ac yn dweud 'o, hen lun yw hwnnw.' Ond pan mae lliw ar lun mae plentyn yn dweud, 'waw, mae'n go iawn'.

"Os ydy llun plentyn bach ar feic yn fwdlyd ac yn gleisiau, mae'n rhoi teimlad i lun. Mae'n dod â phobl yn fyw.

"Mae lot o bobl yn rhoi lluniau i fi sy' wedi eu cadw yn y drôr ers blynyddoedd.

"Mae gen i lun du a gwyn o Taid Deiniolen yn y fyddin. Pan wnes i roi lliw iddo, 'oeddwn i'n gweld llun Taid ond hefyd ro'en i'n meddwl 'waw mae'n debyg i 'mrawd.' Y pethau bach sy'n gwneud person yn berson - oedd o'n fwy na jest llun o Taid yn y fyddin. Mae'n anhygoel."

Ffynhonnell y llun, Emma Squires
Disgrifiad o’r llun,

John Squires, gyrrwr bws ym Mhenygroes

Ffynhonnell y llun, Emma Squires
Disgrifiad o’r llun,

John Squires, mewn lliw. Diolch i Emma Squires, Celtic Autos Penygroes am y llun

Hanes yn fyw

"Mae'r lluniau yn rhoi hanes i bobl ac mae pobl yn dod draw â lluniau ohonyn nhw a'u teulu. Mae pobl yn cofio wedyn ac mae'n dod ag atgofion yn ôl.

"Mae'n dod â'r cyfnod nôl yn fyw."

Ffynhonnell y llun, Catherine Davies
Disgrifiad o’r llun,

Catherine Davies mewn hen lun teulu a dynnwyd tua 1905, Pentrefelin Cricieth

Ffynhonnell y llun, Catherine Davies
Disgrifiad o’r llun,

Catherine Davies, mewn lliw

Hefyd o ddiddordeb