Pryder elusen am gyfnod gwyliau llwglyd i rai plant ysgol
- Cyhoeddwyd
Wrth i blant ysgol yng Nghymru gyfri'r diwrnodau nes i'r gwyliau haf ddechrau, mae nifer o rieni'n pryderu sut y bydden nhw'n talu'r biliau bwyd.
Mae'r defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru wedi cynyddu 14% o gymharu â nifer y parseli a gafodd eu dosbarthu'r haf diwethaf yn ôl elusen Trussell Trust.
Mae'r banciau bwyd yn disgwyl haf prysur arall eleni.
Mae Gemma yn rhiant o Gaerdydd sydd yn derbyn budd-daliadau, ac mae colli'r clwb brecwast a chinio ysgol am ddim am gyfnod o chwe wythnos yn golygu fod haf anodd o'i blaen yn ariannol.
'Cyfnod brawychus'
"Ar ddiwedd y mis dim ond £2 sydd gennai yn weddill yn y cyfrif banc, mae'n gallu bod yn gyfnod brawychus," meddai.
Mae prosiect Chomp yng Nghaerdydd sy'n cael ei redeg gan Eglwys Bedyddwyr Ffordd Albany yn cynnig cymorth i bobl sydd yn yr un sefyllfa.
"Mae plant eisiau bwyta a mwynhau'r haf, ac mae rhaid i chi ddarpau ar eu cyfer," ychwanegodd Gemma.
"Dyna pam mae Chomp mor arbennig, maen nhw yno yn ystod pob gwyliau.
"Mae'n le diogel, ac i mi, mae'n bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau."
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan roddion a grantiau elusennol. Y llynedd roedden nhw'n bwydo 55 person pob sesiwn.
Dywedodd Helen Bull, rheolwr datblygu Banc Bwyd Caerdydd: "Rydym yn pryderu'n fawr fod nifer o deuluoedd yn ei gweld hi'n anodd darparu bwyd ar gyfer eu teuluoedd dros y gwyliau haf.
"Maen nhw'n gorfod darparu mwy o fwyd ar gyfer prydau na maen nhw'n gorfod ei ddarparu yn ystod y tymor ysgol."
Bagiau bwyd
Mae'r Trussell Trust, elusen sy'n rhedeg y rhan fwyaf o fanciau bwyd yng Nghymru, yn dweud fod "bwlch mewn taliadau credyd cynhwysol yn elfen fawr o ran y cynnydd mewn defnydd y banciau bwyd".
Mae Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn dweud fod gwaith a ffigyrau cyflog yn uwch na chwyddiant.
Dywedodd llefarydd mewn datganiad: "Ein blaenoriaeth yw cefnogi pobl i wella eu bywydau drwy weithio, tra hefyd yn helpu teuluoedd incwm isel gyda chostau byw.
"Dyna pam rydym wedi codi'r lwfans personol i gymryd 1.74m o'r bobl sydd ar gyflogau isel allan o'r dreth incwm yn gyfan gwbwl."
Mae ambell ysgol yng Nghymru hefyd yn cynorthwyo rhieni yn ystod y gwyliau haf.
Bydd Ysgol Gynradd Moorland yn ardal Splott o'r brifddinas yn darparu 50 o fagiau bwyd cyn diwedd y tymor.
Dywedodd y pennaeth, Jane Jenkins, y byddai rhai teuluoedd yn mynd heb fwyd heb y cymorth.
Bydd 80 cynllun dan raglen Gwella Gwyliau Haf (SHEP), sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol hefyd yn darparu prydau am ddim ynghyd ag addysg ac ymarfer corff i 4,000 o blant ar hyd a lled Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2018
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd2 Awst 2018