Ailagor rhan o reilffordd cyn yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
RheilfforddFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Bydd lein reilffordd yn ailagor yn rhannol ddydd Iau, bedwar mis ar ôl cael ei difrodi gan Storm Gareth.

Mae Network Rail wedi bod yn gweithio i atgyweirio'r lein yn Nyffryn Conwy cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ddechrau yn Llanrwst ym mis Awst.

Bydd y lein yn agor rhwng Cyffordd Llandudno a Gogledd Llanrwst ddydd Iau, a'r gweddill - sy'n ymestyn i Flaenau Ffestiniog - yn agor ar 24 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Storm Gareth wedi difrodi darn o'r rheilffordd yn Nyffryn Conwy ym mis Mawrth

O ganlyniad i'r difrod a achoswyd ym mis Mawrth, mae chwe milltir o'r rheilffordd, gorsaf Dolgarrog, deg croesfan a naw ffos wedi cael eu hatgyweirio.

Yn ogystal â'r gwaith atgyweirio, mae'r cyflymdra wedi'i gynyddu drwy bentref Maenan, rhwng Dolgarrog a Gogledd Llanrwst, o 30mya i 45 mya.

Bydd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn cynnal trip trên stem o Gaer i Flaenau Ffestiniog ar ddydd Sadwrn 3 Awst.