Cwyn am yr heddlu wedi marwolaeth bachgen

  • Cyhoeddwyd
Christopher KapessaFfynhonnell y llun, Race Alliance Wales
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Christopher Kapessa ar 1 Gorffennaf

Mae mam wedi cwyno am y modd y gwnaeth Heddlu De Cymru ddelio gyda marwolaeth ei mab 13 oed.

Cafwyd hyd i gorff Christopher Kapessa yn afon Cynon, Fernhill, Aberpennar ar 1 Gorffennaf.

Mae cwyn am wahaniaethu gan yr heddlu wedi ei wneud ar ran mam y bachgen, Alina Joseph.

Dywedodd Heddlu'r De fod yr ymchwiliad yn parhau, ac fe wnaethon nhw gadarnhau bod y gŵyn wedi ei chyfeirio at y Swyddfa Annibynnol am Ymddygiad yr Heddlu (SAYH).

Cafodd y gŵyn ei chyflwyno gan The Monitoring Group, sy'n disgrifio'i hun fel "elusen sy'n hybu hawliau dynol a chydberthynas hiliol".

'Annerbyniol'

Mae The Monitoring Group a mudiad arall o'r enw Race Alliance Wales yn cynorthwyo Ms Joseph.

Dywedodd Hilary Brown o Race Alliance Wales: "Mae'n annerbyniol fod Heddlu De Cymru, o fewn 24 awr i'r digwyddiad, wedi awgrymu fod marwolaeth cynamserol Christopher Kapessa yn ddamwain cyn bod ymchwiliad trylwyr i'r digwyddiad ac amgylchiadau'r digwyddiad arweiniodd at y trasiedi yma wedi cael ei gynnal.

"Rydym yn galw am ymchwiliad heddlu llawn i farwolaeth Christopher ynghyd ag ymchwiliad i fethiannau nid yn unig Heddlu De Cymru ond awdurdodau eraill sydd hefyd wedi methu'r teulu yma."

Ychwanegodd Suresh Grover, cyfarwyddwr The Monitoring Group: "Mae'n warthus fod mam ddu yn gorfod cwyno yn erbyn sefydliad a ddylai fod yn ei chynorthwyo pan ei bod ar ei mwyaf bregus wrth alaru am ei mab annwyl."

Ymchwiliad yn parhau

Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad i amgylchiadau'r farwolaeth yn parhau.

Dywedodd llefarydd fod Christopher wedi marw "yn dilyn digwyddiad ar ran o afon Cynon rhwng Aberpennar a Chwm-bach ar ddydd Llun, 1 Gorffennaf".

Ychwanegodd: "Cafodd y gwasanaethau brys eu galw o'r afon am 17:40 ac wedi chwilio eang fe gafodd Christopher ei dynnu o'r afon, ond yn ddiweddarach fe gyhoeddwyd ei fod wedi marw."

Dywedodd yr heddlu y byddan nhw'n "cydweithio'n llawn" gydag ymchwiliad SAYH.

Bydd angladd Christopher yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 19 Gorffennaf yn Aberpennar, ac yna Amlosgfa Thornhill, Caerdydd.