Anrhydedd y Cymro cyntaf i fod yn feirniad Gwobrau Emmy
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr gyfarwyddwr cwmni teledu o Gymru wedi disgrifio'r profiad o gael ei ddewis fel un o'r beirniaid ar gyfer gwobrau Emmy eleni yn Efrog Newydd - y Cymro cyntaf i gael yr anrhydedd.
Bydd Dylan Huws o Gwmni Da, sydd â phencadlys yng Nghaernarfon, newydd ddychwelyd o Beijing lle roedd yn aelod o banel ar gyfer dau o gategorïau'r gwobrau sy'n cael eu hystyried fel fersiwn y diwydiant teledu o'r Oscars.
Bydd 47fed seremoni'r gwobrau rhyngwladol yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd mewn gwesty moethus yn Manhattan ac yn cael ei darlledu i filiynau o bobl ar draws y byd.
Dywedodd Mr Huws: "Roedd y gwahoddiad i fod yn un o'r beirniaid yn wir anrhydedd oherwydd roedd y panel yn llawn cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac eraill ar lefel uchaf y diwydiant - gan gynnwys cynhyrchwyr rhaglenni mae gen i barch mawr atyn nhw."
Roedd ei gyd-feirniaid yn cynnwys cynhyrchydd rhaglenni dogfen sydd wedi ennill Gwobr Emmy a chael enwebiad am Oscar, aelod o bwyllgor dethol yr Oscars ac un o is-lywyddion y Discovery Channel.
Gwaith caled, ond pleserus
Gorchwyl y panel oedd pwyso a mesur y cynyrchiadau gorau o Ewrop oedd wedi eu henwebu yn y categorïau ar gyfer rhaglenni dogfen a rhaglenni celfyddydol.
Yn ôl Mr Huws roedd y broses yn un "ddwys", gyda'r panel yn gwylio rhaglenni am 12 awr gydag un egwyl fer am ginio.
"Roedd yn galed ond yn bleserus iawn i weld gymaint o gynyrchiadau o'r safon uchaf.
"Roedd y rhaglenni mewn nifer fawr o ieithoedd gwahanol gydag is-deitlau Saesneg.
"Dros 48 awr, mi wnaethon ni wylio 14 awr o deledu a chael trafodaethau bywiog ynghylch pa raglenni dylai mynd yn eu blaenau yn y ddau gategori... bydd yn ddifyr gweld beth sy'n digwydd yn y rownd feirniadu olaf.
"Dydw i ddim yn cael trafod y rhaglenni eu hunain felly bydd yn rhaid i bawb aros nes cyhoeddiad y rhestr fer."
'Talent gystal' yng Nghymru
Mae Mr Huws yn credu bod "bri Cwmni Da yn rhyngwladol wedi helpu" i sicrhau'r gwahoddiad i fod ar y panel.
Y llynedd fe gafodd y cwmni, sy'n cyflogi 50 o bobl, ei drosglwyddo i fod yn ymddiriedolaeth ym mherchnogaeth y gweithwyr.
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at y seremoni yn Efrog Newydd, ac yn gobeithio gweld rhaglen deledu Gymraeg yn derbyn Gwobr Emmy ryw bryd yn y dyfodol.
"Y cam mawr nesaf fyddai cael cynhyrchiad Cymraeg ar y rhestr fer. O'r hyn yr ydw i wedi ei weld, mae'n sicr bod gyda ni'n cynyrchiadau a'r dalent sydd gystal â'u cyfatebwyr rhyngwladol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd18 Medi 2018