Tân mewn siop sglodion a thafarn yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth tân
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tân bellach "dan reolaeth", yn ôl swyddogion

Mae tua 30 o swyddogion tân wedi bod yn delio â thân difrifol a ddechreuodd mewn siop sglodion yn Llanelli brynhawn Iau.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i Siop Sglodion Dafen ar Ffordd Maescanner, Dafen am tua 14:00.

Roedd rhaid i swyddogion helpu un dyn i adael yr adeilad yn ddiogel.

Fe wnaeth y tân ledu i'r dafarn drws nesaf, The Bush Inn, hefyd ond mae'r digwyddiad bellach "dan reolaeth".

Nid oes unrhyw adroddiadau bod unrhyw un wedi cael ei anafu.