Y bachgen o Fôn a anelodd am y sêr
- Cyhoeddwyd

Tudur Owen tu allan i bencadlys NASA: mae'r cyflwynydd yn mynd ar drywydd Tecwyn Roberts mewn rhaglen ar S4C
O fagwraeth wledig ar dyddyn yn Ynys Môn daeth i fod yn un o'r bobl flaenllaw yn yr ymgyrch i anfon dyn i'r lleuad. Dyna yw hanes Tecwyn Roberts, un o brif beirianwyr NASA yn y chwedegau.
Ac oherwydd gwaith Tecwyn yn creu Rhwydwaith Llwybrau a Chyfathrebu NASA cafodd y byd weld y lluniau eiconig o Neil Armstrong yn cerdded ar y lleuad am y tro cyntaf hanner canrif yn ôl.
Ond pwy yw Tecwyn Roberts a pham mae ei hanes yn anghyfarwydd i'r rhan fwyaf o Gymry?

Tecwyn Roberts wrth ei waith (yn eistedd)
Mae'r cyflwynydd o Ynys Môn, Tudur Owen, yn gobeithio newid hyn mewn rhaglen ar S4C, Tudur Owen: O Fôn i'r Lleuad, i ddathlu 50 mlynedd ers i ddyn lanio ar y lleuad yng Ngorffennaf 1969.
Cyfraniad allweddol
Dywedodd Tudur: "O'n i'n ymwybodol o Tecwyn Roberts ond dim byd mwy. Ond mae lot mwy i'r stori nag oedden ni'n tybio.
"Roedden ni'n gwybod fod o'n ddyn pwysig o fewn y system ond doedden ni ddim wedi deall pa mor bwysig.
"Ac mae'i gyfraniad o gymaint mwy nag oedden ni wedi dychmygu. Roedd o'n rhan o'r tîm yn gweithio allan sut oedden nhw'n mynd i yrru person i'r gofod. Ac yna ar gychwyn y 60au sut oedden nhw'n mynd i gael person ar y lleuad."
Chwaraeodd Tecwyn o Landdaniel Fab rhan allweddol yng nghynllunio canolfan Mission Control enwog NASA yn Houston, Texas yn y 60au.
Dawn arbennig
Yn ôl Tudur: "Roedd y dyn yn athrylith. Cafodd o addysg arferol yn Ynys Môn yn mynd o Ysgol Parc y Bont yn Llanddaniel i ysgol ramadeg yn Biwmaris ac yna mynd i weithio i ffatri beirianneg o'r enw Saunders-Roe yn Biwmaris. Mae'n rhaid bod nhw wedi adnabod ei dalent o achos mi wnaethon nhw gynnig ysgoloriaeth iddo fo.
"Wedyn symudodd Tecwyn i Ganada i weithio i gwmni technoleg newydd, gan ddringo'r ysgol yn y byd peirianneg drwy ei dalent.
"Siaradon ni â Dr Chris Kraft, Cyfarwyddwr Awyr cyntaf NASA, sy' yn ei 90au. Fo oedd un o'r bobl oedd yn gyfrifol am sefydlu NASA - a be' wnaethon nhw oedd sbio ar draws y byd i ffeindio'r brêns gorau ac mae'n amlwg bod nhw wedi adnabod Tecwyn a'i dalent o."
Diffyg sylw
Tecwyn Roberts oedd un o gewri'r ymgyrch i anfon gofodwyr America i'r gofod ac i lanio ar y lleuad - ond pam ei fod tn enw anghyfarwydd yng Nghymru?
Mae Tudur yn meddwl bod sawl rheswm: "Petai o wedi bod yn fardd neu'n awdur o fri, byddai mwy o sylw wedi cael ei roi iddo, 'falla. Dydyn ni fel Cymry ddim yn rhoi digon o sylw i'n gwyddonwyr.
"Roedd o'n ddyn diymhongar iawn. Dydy o ddim i'w weld mewn lot o lunia' neu mae o ond yng nghongl rhyw lun. Does dim llawer o fideos ohono fo a phan mae o'n siarad mae o'n edrych yn anghyfforddus iawn.
"Doedd o ddim yn ddyn gregarious iawn."

Tudur Owen yn ystafell reoli NASA
Ond mae Tudur wedi llwyddo i ddysgu mwy am y dyn eithriadol hwn trwy siarad â ffrindiau a chydweithwyr Tecwyn ar y pryd.
"Roedd hi'n gymaint o anrhydedd i gwrdd â rhai o gewri NASA," meddai Tudur. "Maen nhw mor bwysig yn hanes dynoliaeth. Maen nhw'n hen erbyn 'wan ac wedi stopio rhoi cyfweliadau ers blynydda'.
"Ond pan esboniodd Gwen Hughes [o Kailash Films, cynhyrchwyr y rhaglen] ein bod ni am wneud rhaglen ddogfen am Tecwyn Roberts, dywedon nhw ie. Roedd ganddon nhw gymaint o feddwl o Tec, cytunon nhw siarad."
Nôl i Gymru
"Roedd Tecwyn yn broffesiynol iawn efo'i feddwl ar ei waith bob tro ac yn gweithio oriau gwirion," esboniodd Tudur.

Daeth Tecwyn Roberts nôl i'w hen ysgol yn Llanddaniel in 1974
"Ond mae 'na anwyldeb yna hefyd a balchder o'i wlad. Fe ddaru o ymweld â Chymru yn yr 80au cyn iddo fo farw yn weddol ifanc yn 63 oed. Aeth o nôl i'w hen ysgol yn Llanddaniel Fab a chwrdd â ffrindiau."
Bu farw Tecwyn Roberts yn 1988 ac fe gafodd ei gladdu yn nhalaith Maryland. Mae draig goch ar ei garreg fedd â'r geiriau 'Rhaid i mi ddweud ffarwel …'
Dywedodd Tudur: "Dyla mwy o bobl ddod i wybod ei hanes. Mae o'n ysbrydoledig. Mae o'n dangos beth gall pobl 'neud. Roedd lot o allu ganddo fo ond wnaeth o weithio'n galed hefyd."
Mae'r rhaglen Tudur Owen: O Fôn i'r Lleuad ar S4C, nos Sul 14 Gorffennaf am 20:00.